Gall Cyngor Sir Ynys Môn gynnig nifer o safleoedd ac eiddo i ddibenion pori, busnes neu ddatblygu mewn amrywiaeth o leoliadau ledled yr ynys.
I ddechrau chwilio am eiddo neu thiroedd sydd ar gael, dilynwch y llyw ar y chwith i weld rhestr o'r
eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd, cliciwch ar y
map er mwyn chwilio yn ol ardal neu gweler dudalen
eiddo y mis. I chwilio am
diroedd pori ar gael dilynwch y llyw ar y chwith.
Eiddo Masnachol
Mae gan y Cyngor Sir bortffolio o unedau, gweithdai, swyddfeydd ac adeiladau adwerthu i’w gosod - rhai bach a chanolig - yn amodol ar gyflwyno cais ffurfiol. Mae’r rhain ar gael ar delerau hyblyg ac am renti cystadleuol.
Tir Pori
Mae gan y Cyngor hefyd amryfal barseli o dir ledled yr ynys sy’n addas i bori defaid, gwartheg a cheffylau arnynt. Hysbysebir safleoedd bob blwyddyn a gwahoddir partïon sydd â diddordeb i gyflwyno bidiau tendr am drwyddedau pori tymor byr.
Mân-ddaliadau Amaethyddol
Mae gan y Cyngor nifer o fân-ddaliadau amaethyddol. Ar yr amod bod mân-ddaliadau ar gael, cynigir tenantiaethau busnes fferm i annog pobl i gael troed ar yr ystôl o ran y diwydiant amaeth lleol. Rhaid cyflwyno cais am y tenantiaethau hyn a chwrdd â meini prawf caeth.
Eiddo ar Werth
O bryd i’w gilydd, mae’r Cyngor yn cael gwared ar blotiau datblygu masnachol, plotiau adeiladu preswyl ac eiddo eraill nad yw eu hangen mwyach. Gellir prynu’r eiddo hyn trwy gyflwyno cais, trwy gytundeb preifat, trwy dendrau ffurfiol neu mewn arwerthiant cyhoeddus.