Efallai bod rhai ohonoch yn glanhau’r tŷ ac yn cael gwared â hen nwyddau er mwyn cael eich cartref fel pin mewn papur.
Nawr fod y gwaith caled wedi ei gwblhau, beth allwch chi ei wneud gyda’r sbwriel a beth mae ‘gwastraff swmpus’ yn ei olygu?
Gwastraff swmpus yw eitemau mawr o sbwriel megis poptai, oergelloedd, rhewgelloedd, matresi, sofas, beics, cypyrddau dillad ayyb.
Efallai bod y syniad o gael gwared â’r sbwriel yma yn achosi cur pen i chi, ond gyda’n help ni mae’r broses yn un hawdd.
Mae gennym hyd yn oed gwahanol opsiynau i weddu pawb.
Y Gwasanaeth Gwastraff Swmpus
Mae’r Adain Rheoli Gwastraff yn darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus AM DDIM o hyd at bedair eitem dwywaith y flwyddyn. Mae trefnu’r casgliad yn hawdd - ffoniwch linell gymorth Gwastraff Swmpus yr Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 752899 a rhowch wybod i ni:
- eich enw
- eich cyfeiriad
- yr eitemau i’w casglu
Gwasanaethau Casglu Eraill ar gyfer Gwastraff Swmpus
Os oes gennych fwy na phedwar eitem swmpus i’w casglu yna mae gwasanaetha ychwanegol ar gael am bris rhesymol. Ffoniwch y llinell gymorth 01248 752899 am fwy o wybodaeth.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig
Cofiwch fod yna ddwy ganolfan ailgylchu gwastraff domestig ar Ynys Môn lle y gallwch gael gwared ag eitemau mawr a gwastraff o’ch cartref am ddim.
Maent yn hawdd i’w ffeindio ac mae’r ddwy ganolfan ar agor 7 diwrnod o’r wythnos o 10 y bore tan 5 y prynhawn (ar wahân i Ddiwrnod Nadolig a Dydd Calan) ac mae yna wastad rhywun ar gael i’ch helpu i ddadlwytho’ch sbwriel.
Mae Canolfan Ailgylchu Penhesgyn (ger Porthaethwy) wedi ei leoli ar y B5420 ar Ffordd Penmynydd rhwng Llangefni a Porthaethwy.
Mae Canolfan Ailgylchu Gwalchmai wedi ei leoli ar yr A5 ger pentref Gwalchmai.
Opsiynau eraill ar sut i gael gwared â gwastraff swmpus
Mae opsiynau eraill yn cynnwys y rhyngrwyd lle y gallwch gael golwg ar wahanol wefannau ar gyfer gwerthu eich eitemau neu sut i ailddefnyddio eitemau diangen.
Gall dodrefn gael ei werthu drwy roi hysbyseb mewn cylchgronau a phapurau newydd lleol.
Neu opsiwn arall yw Dyfodol i Ddodrefn yn Llangefni. Maent yn derbyn dodrefn ac yna yn ei werthu am bris gostyngol.
Maent hefyd yn darparu gwasanaeth casglu a gwasanaeth clirio tai am bris rhesymol. Ffoniwch 01248 724433 am fwy o fanylion.