Mae'r adain yma wedi'i dylunio i gynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar ystod eang o faterion o bwys. Rydym yn darparu rhestr o ddolenni i safleoedd gwe ddefnyddiol.
Mae Grant Chwarae Mynediad Agored yn rhan o Fframwaith ar gyfer Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, o fewn Cyllid Cymorth a ddosrennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i gefnogi gweithgareddau chwarae mynediad agored i blant 5-16 oed.
Mae’r Groes Goch Prydeinig yn Gogledd Cymru yn rhedeg prosiect ieuenctid symudol arloesol yn Ynys Môn a Gwynedd. Pan ddechreuodd y prosiect roedd yn cael ei ariannu gan y tîm diogelwch cymunedol yn y ddwy sir, rwan rydym yn cael ei’n rhan ariannu gan gymorth hefyd, ac mae gennym arian hyd at 2007 gan y ddau gyngor.
Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Ynys Môn yn bwynt mynediad canolog a chyfrinachol a thrwyddo ceir gwybodaeth yn rhad ac am ddim a honno'n wybodaeth ddiduedd ar nifer o wasanaethau gofal o safon uchel ac am brisiau rhesymol i deuluoedd; hefyd geir wybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael ym Môn i blant a phobl ifanc
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cefnogaeth ar gyfer plant a theuluoedd sy'n fregus neu sydd angen cymorth gyda byw o ddydd i ddydd. Gallwch ein cysylltu am gymorth gyda'ch teulu eich hun neu ar ran plentyn sydd yn eich gofal neu os ydych yn boenus am blentyn.
Wyt ti’n blentyn neu’n unigolyn ifanc yn ardal Ynys Môn sy’n cael dy gam-drin naill ai adref neu gan rywun tu allan i dy gartref? Oes yna rywun adref yn cael ei gam-drin gan rywun arall? Neu oes gennyt ffrind sydd angen help oherwydd ei bod ef neu hi’n cael ei g/cham-drin?