Gall diet iach ac amrywiol, ynghyd â digon o weithgaredd corfforol, fod o gymorth i gadw pwysau corff iach a lleihau’r perygl o nifer o glefydau gan gynnwys clefyd y galon, strôc, canser, diabetes ac osteoporosis.
Beth ydy diet iach?
Dylai diet cytbwys, iach gynnwys amrywiaeth o bum grŵp o fwydydd gan gynnwys:
- Ffrwythau a llysiau, pum cyfran 80g o leiaf bob dydd megis:
- 1 afal, banana, gellygen, oren neu ffrwyth o faint tebyg
- 2 eirinen neu ffrwyth o faint tebyg
- ½ grawnffrwyth neu afocado
- sleisen o ffrwyth mawr, megis melon neu afal pîn
- 3 llond llwy fwrdd o lysiau (heb neu wedi eu coginio, wedi eu rhewi neu mewn tun)
- 3 llond llwy fwrdd o ffa a chorbys (’waeth faint fyddwch chi’n ei fwyta, mae ffa a chodlysiau yn cyfrif fel un gyfran y dydd ar y mwyaf)
- 3 llond llwy fwrdd o salad ffrwythau (ffres neu mewn tun mewn sudd ffrwyth) neu ffrwythau wedi eu berwi
- 1 llond llwy fwrdd o ffrwythau sych (megis resins a bricyll (apricotau))
- 1 llond dwrn o rawnwin, ceirios neu aeron
- llond dysgl bwdin o salad
- gwydraid o sudd ffrwythau (150ml) (’waeth faint fyddwch chi’n ei yfed, mae sudd ffrwythau yn cyfrif fel un gyfran y dydd ar y mwyaf)
- Digonedd o fara, reis, tatw, pasta a bwydydd starts eraill. Dewiswch flawd cyflawn pryd bynnag y gellwch
- Ychydig o gig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau protein eraill heb fod yn gynnyrch llefrith
- Rhai bwydydd yn cynnwys llefrith
- Symiau bychain o fwydydd yn cynnwys braster neu siwgr
Ni all yr un grŵp o fwydydd ddarparu’r holl faeth y mae ar y corff eu hangen. Felly, mae hi’n bwysig bwyta ac yfed amrywiaeth eang o fwydydd i roi’r fitaminau, y mwynau a’r ffibr diet sy’n bwysig i iechyd.
Os oes arnoch eisiau cael cydbwysedd eich diet yn gywir, defnyddiwch y plât bwyta’n dda yn www.eatwell.gov.uk.
Dyma’ch 8 awgrym ar gyfer bwyta’n dda gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
1. Seiliwch eich prydau bwyd ar fwydydd startsh e.e. bara, reis a thatw
2. Bwytewch ddigonedd o ffrwythau a llysiau, anelwch at fwyta pum cyfran y dydd o leiaf!
3. Bwytewch fwy o bysgod
4. Osgowch fwyta gormod o fwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgr
5. Ceisiwch fwyta llai o halen
6. Byddwch yn brysur a cheisiwch gadw at bwysau iach
7. Anelwch at yfed dau litr (3.5 peint neu 6-8 gwydraid) o hylifau'r dydd. Mae pob dim yn cyfrif - dŵr, llefrith a diodydd poeth - ond dim alcohol.
8. Bwytewch frecwast, cinio a swper
Llyfryn ryseitiau
Am syniadau ryseitiau, ellwch llwytho llyfr 'Hwyl a Hyder gyda choginio' (gweler y PDF ar waelod y dudalen yma) sydd wedi cael ei rhoi at ei gilydd gan CAG Coleg Harlech, Medrwn Môn a Chymunedau Cyntaf Ward Tudur Llangefni, gyda gefnogaeth ariannol prosiect Cymunedau Môn. Am gopi caled yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Tîm Môn ar 01248 353 254 neu gyrrwch ebost i mon@fc.harlech.ac.uk