Ymhen 10, 20 neu 100 mlynedd fe fydd chwilfrydedd mawr ynglŷn â beth sydd yn digwydd heddiw. Y mae'r archifdy yn croesawu adneuon o ddefnydd archifol sydd yn ymwneud ag Ynys Môn gan aelodau o'r cyhoedd.
Os ydych yn meddwl am gael gwared â phapurau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau o'ch cartref neu o'ch gwaith, fe fyddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os byddwch yn ymwybodol bod gan rhai unigolion ddogfennau a fyddai o ddiddordeb,cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Fe hoffwn gysylltu â nhw er mwyn diogelu treftadaeth archifol Ynys Môn ar gyfer y dyfodol.
Yr ydym yn derbyn bron pob cynnig o ddogfennau ac y maent yn ddi-eithriad o ddiddordeb i ddefnyddwyr yr archifdy. Gwerthfawrogwn eich cymorth yn amddiffyn treftadaeth Ynys Môn ac i sicrhau mynediad i genedlaethau'r dyfodol i gyfoeth hanes yr ynys.