Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Canolfannau hamdden a phyllau nofio

Chwiliwch y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon

 

Seren Olympaidd yn ymweld ag Ynys Môn


Mynychodd Matt Elias, medalydd arian y Gymanwlad, athletwr Olympaidd ŵyl athletau yr wythnos ddiwethaf yng nghanolfan hamdden Plas Arthur.

Cafodd dros 40 o ddisgyblion wythnos hir o hwyl o weithgareddau athletau wedi eu trefnu gan Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Môn  ar y cyd ag Athletau Cymru.

Gwnaeth Matt Elias ymddangosiad  ar ddiwrnod olaf yr ŵyl  i sgwrsio gyda phobl ifanc am ei yrfa  ac ateb unrhyw egin gwestiynau.

Dywedodd  Barry Edwards, trefnydd y digwyddiad ‘ Rydym wedi cael ymateb ardderchog i’r digwyddiad hwn, mae’n gyntaf o’i fath ar Ynys Môn ac rydym yn falch iawn bod y disgyblion wedi mwynhau eu hunain a chael y cyfle i gyfarfod â seren genedlaethol. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr .’

Dywedodd un plentyn  a oedd yn cymryd rhan, Iestyn Jones o Rosybol , ‘ Cefais gymaint o hwyl, roedd yn wythnos cŵl  ac mi wnes i lawer o gyfeillion.’

Yn dilyn ei lwyddiant cynhelir y digwyddiad eto ym misoedd yr haf y flwyddyn nesaf. Mae’r Uned Datblygu Chwaraeon yn gweithio’n barhaus i ddatblygu chwaraeon yn y gymuned ac yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid. Fodd bynnag maent yn dibynnu ar  wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r rhan fwyaf o’u gweithgareddau.

Pe bai gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gydag unrhywrai o’u digwyddiadau neu eu gweithgareddau cysylltwch â’r Uned Datblygu Chwaraeon am fanylion ar 01248 752026.


Diwygiad Diweddaraf: 04/11/2009
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057