Mae un o ganolfannau hamdden Ynys Môn yn arwain y ffordd gyda datblygiad newydd cyffrous ym myd pêl-droed.
Mae Fustal yn ffordd newydd gwych o chwarae pêl-droed medrus o dan do. Daw’r enw o futebol de salão yn yr iaith Portiwgaleg a’r Sbaeneg fútbol de salon, y gellir eu cyfieithu fel “pêl-droed neuadd”. Yn wahanol i rai mathau eraill o bêl-droed o dan do, mae’r gêm yn cael ei chwarae ar wyneb cwrs caled wedi’i farcio gyda llinellau. Ni ddefnyddir waliau na byrddau. Mae’r bel hefyd yn llai yn ‘Futsal’ ac nid yw’n bownsio cymaint â phêl-droed arferol. Mae’r rheolau’n rhoi pwyslais ar dechneg a bod yn greadigol yn ogystal â’r gallu i reoli’r bel a phasio mewn llefydd cyfyng.
Rhoddwyd grant o £1,000 o gronfa’r Gist Gymunedol i Ganolfan Hamdden David Hughes i brynu goliau, peli, bibs ac offer arall ar gyfer y cynllun newydd. Yn ôl y Cydlynydd Barry Edwards, Swyddog 5 x 60 yn yr ysgol uwchradd cyfagos - ‘Mae hwn yn gyfle gwych i bawb, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y grant ac fe allwn yn awr gyflwyno’r gêm newydd hon sy’n cyffroi’r byd pêl-droed, i’r gymuned leol’. Gan weithio gyda Gus Williams, Swyddog Datblygu Cymdeithas Pêl-droed Cymru ym Môn, bydd y ddau yn sicrhau y bydd y cyfleon pêl-droed ar draws cymunedau’r Ynys yn parhau i fynd o nerth i nerth. Yn ôl Gus Williams - ‘Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r ganolfan a bydd yr ysgol hefyd yn elwa o’r gêm newydd hon sy’n tarddu o’r gêm bêl-droed ei hun. Mae Futsal yn ffurf ar bêl-droed sydd yn datblygu’r holl elfennau technegol yn y gêm’.
Mae Brian Hughes, rheolwr y ganolfan hamdden hefyd yn edrych ymlaen – ‘mae’r cynllun hwn yn newyddion gwych i’r ganolfan hamdden, ac mae’n rhoi cyfle i ni ddarparu gweithgaredd newydd ar ein hamserlen, fel medrwn ni gynnig rhywbeth gwahanol’.
Bu is-lywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru, y Cynghorydd Trevor Lloyd Hughes yn y lansiad ddydd Mercher 2 Rhagfyr.
“Mae’n wych o beth gweld cymaint o blant yn mwynhau'r math hwn o bêl-droed sydd wedi gwneud mor dda i hogiau Brasil dros y blynyddoedd ac efallai y bydd hwn yn allweddol i lwyddiant chwaraewyr Llandegfan a Llangoed yma yn Ysgol Porthaethwy. Mae yna bosibilrwydd y bydda i yn cael fy ngwahodd ar banel UEFA o Futsal yn fuan ac mi fydd yn braf i mi allu mynd yno a dweud wrthynt fod y gêm yn ffynnu ar Ynys Môn. Gyda chwaraewyr mor dda, a Swyddogion Chwaraeon y Cyngor yn rheoli’r cyfan gyda chymorth cyllid y Gist Gymunedol, hei lwc y bydd Futsal yn llwyddiant am amser maith i ddod”.
Cafodd y prosiect hwn ei gyllido gyda Grant Cist Cymunedol sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Gellir dyrannu hyd at £1,000 i chwaraeon lleol ac i brosiectau ffitrwydd.
Cysylltwch â Mandy Jones ar 01248 752026 am fwy o fanylion.