Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Canolfannau hamdden a phyllau nofio

Chwiliwch y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon

 

Clybiau chwaraeon lleol yn cael hwb ariannol

Mewn cyfarfod diweddar o’r Gist Gymunedol, derbyniodd 12 o brosiectau swm o £8964 rhyngddynt.

Cyflwynodd y 12 prosiect geisiadau i’r Panel gan gynnwys cais gan Glwb Cychod Cemaes i brynu offer i gynorthwyo i hyrwyddo a chreu diddordeb mewn hwylio, yn arbennig felly ymysg pobl ifanc. 

Derbyniodd Cymdeithas Pysgota Cefni hefyd grant i anfon dau aelod o’r clwb ar gyrsiau hyfforddi.  Yn ogystal, cafodd Clwb Criced Porthaethwy grant i anfon aelodau ar gyrsiau hyfforddi.  Mae hyd at £1000 fesul prosiect ar gael trwy’r Grantiau Cist Gymunedol ac mae cyfleon i gyflwyno ceisiadau’n codi’n rheolaidd drwy’r flwyddyn.  Cyflwynodd Holyhead Hotspur gais llwyddiannus i roi hyfforddiant cymorth cyntaf i aelodau’r clwb a derbyniodd Canolfan Heneiddio’n Dda Llangefni grant i brynu offer a fydd o gymorth i ddatblygu gweithgaredd corfforol yn y grwp trwy ddarparu system PA newydd i’r hyfforddwyr fel y gall aelodau gydag anawsterau clyw ymuno’n fwy hyderus yn y gweithgareddau.

Ceir fwy o fanylion am y grantiau a ddyrannwyd ar  dudalennau gwe grantiau ac ariannu ar gyfer chwareon

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 15 Mehefin 2010,  Cysylltwch gyda Mandy Jones ar 01248 752026 neu lawrlwytho ffurflen gais ar ein tudalen ffurflen gais: grant cist cymunedol.


Diwygiad Diweddaraf: 18/05/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057