Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Canolfannau hamdden a phyllau nofio

Chwiliwch y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon

 

Peldroedwyr y gwneud Ynys Môn a Cymru'n falch iawn.


Ar y 24 o fis Mai, dychwelodd 15 o bêl-droedwyr o Goleg Pengwern a Chlwb Pêl-droed Llewod Amlwch, Ynys Môn o’r Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd yng Ngenefa, Y Swistir, lle’r oeddynt yn cynrychioli tîm pêl-droed Mencap Cymru.

Yn y pencampwriaethau, daeth 20 o dimau ynghyd o bob cwr o Ewrop gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a’r Iseldiroedd i enwi ond ychydig.  Bu’r timau’n cystadlu dros 3 diwrnod i ennill Cwpan Ewropeaidd Schtroumpf, cwpan y mae bri mawr iddi. Y chwaraewyr a fu’n cynrychioli Mencap Cymru oedd Kevin Gibson (Capten), Liam Hough, Glyn Williams, Alison Williams, Sion Jones, Rhys Mollin, Joe Stephens, Michael Gallagher, Tim Wright, Adele Hughes, Gary Costa, Carl Morris, Rachel Gilroy, Miles Duffy a Mark Williams. 

Cafwyd perfformiadau unigol ardderchog gan y chwaraewyr i gyd a bu’r tîm yn chwarae yn erbyn rhai o bêl-droedwyr gorau Ewrop.  Rhaid sôn yn arbennig am Joe Stephens a gafodd ei enwi’n chwaraewr y twrnamaint oherwydd ei berfformiadau anhygoel wrth amddiffyn.  Taflodd Joe ei hun i bob tacl ond gellir priodoli’r llwyddiant i bob aelod o’r tîm.

Roedd hi’n gystadleuaeth anodd ond gweithiodd tîm Mencap Cymru yn galed ac roeddynt yn llysgenhadon eithriadol i Gymru a Phrydain Fawr.   Chwaraeodd y tîm yn deg ac yn yr ysbryd iawn ar y cae ac oddi arno wrth iddynt roi anogaeth i’r timau eraill a oedd yn cynrychioli Ynysoedd Prydain.  Dylai eu hyfforddwyr, teuluoedd a chyfeillion fod yn hynod falch ohonynt.

Am fwy o wybodaeth am bob math o chwaraeon ar Ynys Mon dilynnwch y dolenni isod


Gellir glicio ar y llun er mwyn ei weld mewn mwy o fanylder.


Gweler Hefyd

Atodiadau

Bydd y ffeiliau canlynol yn agor yn ei rhaglenni perthnasol (ee Darllenydd Adobe Acrobat, Word). Mae pob atodiad yn agor yn yr un ffenestr porwr. Cliciwch ar y botwm "Back" ar eich porwr i ddychwelyd i'r wefan hon.

I weld ffeiliau PDF ar ein gwefan byddwch angen Darllenydd Adobe Acrobat fersiwn 5 neu uwch. I ddadlwytho'r meddalwedd am ddim, ymwelwch â gwefan Adobe

Am gymorth gyda darllen ffeiliau PDF, ymwelwch â thudalennau hygyrchedd Adobe

Acrobat/PDF FileLlun o'r tim mewn mwy o fanylder
Math o Ddogfen:Acrobat/PDF File
Fformat y ddogfen:2.67Mb

Diwygiad Diweddaraf: 30/07/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057