Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Canolfannau hamdden a phyllau nofio

Chwiliwch y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon

 

Addysg hyfforddwyr mewn chwaraeon


Mae hyfforddwyr yn rhan allweddol o chwaraeon ar Ynys Môn ac yng Nghymru; maent yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod pobl yn cael eu denu at chwaraeon, yn mwynhau chwaraeon ac yn aros yn gyfranogwyr gydol oes.

Bydd yr adran hon yn rhoi dirnadaeth i chi ynghylch yr hyn yw hyfforddi, sut i ddod o hyd i gwrs ac yn darparu manylion am gyfleoedd addysg hyfforddiant ar Ynys Môn.

A fyddech yn hoffi bod yn hyfforddwr/hyfforddwraig neu’n arweinydd yn eich hoff gêm?

Gellwch hyfforddi ar lawer o wahanol lefelau o ddechreuwyr i hyfforddiant elitaidd. Gallwn drefnu cymwysterau megis:

  • dyfarniadau CSLA (Dyfarniad arweinyddion Chwaraeon Cymunedol)
  • Gweithdai Pobl Ifainc Egnïol
  • dyfarniadau Arweinyddion Pêl-droed
  • dyfarniadau Arweinyddion Rygbi

a llawer mwy

Cymwysterau hyfforddi eraill

Gallwn hefyd gynorthwyo gyda dyfarniadau eraill a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw hyfforddwr:

  • dyfarniad cymorth cyntaf
  • amddiffyn plant

Am fwy o wybodaeth ar yr hyn y mae’n ei gymryd i ddod yn hyfforddwr, gweler cyswllt gwefan Hyfforddi Cymru (Coaching Wales) isod a weithredir gan Gyngor Chwaraeon Cymru.


Safleoedd Gwe Perthnasol

  • Hyfforddiant Cymru

    Croeso i wefan Hyfforddiant Cymru. Diben y safle yma yw eich arwain i'r cyfeiriad iawn os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu os ydych yn hyfforddwr eisoes ac eisiau gwybodaeth bellach ynghylch sut i wella eich sgiliau!

  • Clybiau Chwaraeon Cymru

Diwygiad Diweddaraf: 25/02/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057