Cyrsiau coginio
Cyrsiau coginio ar gyfer rhai dros hanner cant
Ydych chi dros hanner cant a heb lawer o sgiliau coginio neu ddim o gwbl? Os mai ‘ydw’ ydy’r ateb – yna mae cymorth wrth law gyda Chwrs Coginio Cymunedol!
Mae’r cwrs yn delio â:
- hylendid bwyd
- coginio ymarferol
- cynllunio prydau
- maethiad sylfaenol
- siopa ar y rhyngrwyd
Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch â Chyd-drefnydd Strategaeth Pobl Hŷn, Cyngor Sir Ynys Môn ar (01407) 721 950.
Cymru’n Coginio:
Prosiect ydy ‘Cymru’n Coginio’ sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o weithredu cynllun ‘Bwyd a Ffitrwydd - Hybu Bwyta'n Iach a Gweithgarwch Corfforol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru’. Nod y prosiect ydy rhoi sgiliau sylfaenol maethiad ymarferol, diogelwch bwyd a hylendid i blant a phobl ifanc a newid agweddau tuag at fwyd drwy glybiau bwyd ar ôl yr ysgol. Mae’r clybiau hefyd yn gwahodd teuluoedd a chymunedau lleol i gymryd rhan.
Ar hyn o bryd mae yna ugain clwb ‘Cymru’n Coginio’ ar Ynys Môn sydd wedi derbyn offer cegin, sosbenni, powlenni a llestri cinio.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Bethan Dixon, Cyd-drefnydd Ysgolion Iach ar (01248) 752 945.