Nod y Rhaglen Siopau Bwyd Cydweithredol Cymunedol ydy cyflenwi ffrwythau a llysiau o ansawdd da am bris fforddiadwy bob wythnos, a hynny o adnoddau lleol gymaint ag sydd modd. Mae bagiau o ffrwythau a llysiau ffres ar gael am oddeutu £2.50 yr un sy’n gallu bod o gymorth tuag at gyrraedd y ‘5 y dydd’ sy’n cael ei argymell.
Gall Gweithwyr Datblygu Bwyd o’r Uned Adfywio Gwledig gynorthwyo cymunedau sy’n dymuno dechrau cynllun bwyd cydweithredol drwy roi cyngor am ddim, cefnogaeth, offer sylfaenol a chyrsiau hyfforddi am ddim i wirfoddolwyr a chwsmeriaid. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â June Jones, os gwelwch yn dda, yn Uned Adfywio Gwledig Gogledd Cymru ar y rhif ffôn 01766 890637 neu 07717 202215 neu anfonwch neges i june.jones@rru.org.uk
Siopau bwyd cymunedol Ynys Môn
| Siop cymunedol | Cyfeiriad | Ffôn | Amser | | Co-op Morawelon | Canolfan Gymuned Gwelfor, Ffordd Tudur, Caergybi. LL65 2DH. | (01407) 765119 | Gwener 11am-12pm | | Co-op Mill Bank / Maes Hyfryd | Canolfan Millbank, Caergybi | | Bore Mercher | | Co-op Town Ward | Allan o Millbank, Caergybi | | Gwener 10am-12.30pm | | Co-op Bwyd Porth y Felin | Canolfan Gymuned Newry, Newry Street, Caergybi. | | Gwener 11am-12pm | | Co-op Treseifion | Caergybi | | Bore Mercher | | Co-op Merched y Gymuned | Hen Ysgol British, Bridge Street, Llangefni. LL77 7HL. | (01248) 722323 | Gwener 2-3.30pm |
|