Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cysylltu â'r Archifdy

 

Hanes teulu

Mae gennym ystod eang o adnoddau sy’n ddefnyddiol i haneswyr teuluol. Os ydych yn meddwl bod eich hynafiaid unwaith wedi byw ar Ynys Môn a chwithau gyda diddordeb mewn canfod rhywbeth amdanynt, yna bydd y dudalen hon yn rhoi rhai awgrymiadau i chwi ar sut i ddechrau eich gwaith ymchwil.

Lle i ddechrau:

Y lle gorau i ddechrau eich ymchwil i hanes y teulu yw yn y cartref.  Dechreuwch trwy ofyn i’ch perthnasau am eu hatgofion o gyn-aelodau o’r teulu.  Y nod bob amser yw casglu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl hy ynglÅ·n ag enwau, dyddiadau a llefydd.  Gellir cael gwybodaeth werthfawr hefyd o hen ddogfennau teuluol fel trysorau teuluol, Beiblau, ewyllys a ffotograffau.

Unwaith y byddwch wedi canfod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl, byddwch yn gallu penderfynu lle i ddechrau eich ymchwil.  Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dechrau gyda nifer o ffeithiau sy’n wybyddus iddynt ac wedyn byddant yn gweithio yn ôl i’r gorffennol gan ddefnyddio cofnodion priodas, bedydd neu enedigaeth (gweler isod).

Mae’n syniad da hefyd i gysylltu gyda’ch cymdeithas hanes teuluol leol gan y bydd y cyngor gorau i’w gael gan gyd-haneswyr teuluol.  Cyfeiriad gwefan Cymdeithas Hanes Teuluol Gwynedd yw:  http://www.gwyneddfhs.org/

Camau Cyntaf:

Cofrestri Plwyf:  Mae’r cofrestri hyn yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth ar fedyddio, priodi a chladdu cyn cyflwyno’r Cofrestriad Sifil o enedigaethau, priodasau a marwolaethau yn 1837.  Mae cofrestri pob Plwyf ym Môn wedi’u rhoi i’w cadw i Wasanaeth Archifau Ynys Môn – mewn rhai achosion bydd y cofnodion yn dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif.

Cofrestru sifil ar enedigaethau, priodasau a marwolaethau:  dechreuodd hyn yng Ngorffennaf 1837.  Mae’r cofnodion hyn yn cael eu cadw yn y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.  Mae’r Cofrestrydd Arolygol Lleol yn cadw cofnodion Ynys Môn.  Cysylltwch â:   mgxcs@anglesey.gov.uk  os gwelwch yn dda.

Cofnodion Capel:  Os na allwch gael gwybodaeth am eich hynafiaid yng nghofrestri’r plwyf fe allai hynny fod oherwydd eu bod yn anghydffurfwyr.  Mae gennym restr o rai a fedyddiwyd cyn 1837, er bod yna ychydig o gofrestri ar gael am ddyddiadau diweddarach.

Trawsgriptiau’r Esgob: Trawsgriptiau yw’r rhain o’r hyn a ysgrifennwyd yn y cofrestri plwyf oedd yn cael eu hanfon bob blwyddyn at Esgob Bangor o 1598 ymlaen.  Fe ellir eu defnyddio i lenwi bylchau os yw’r gofrestr wreiddiol ar goll neu onid oes modd ei darllen.  Nodwch, os gwelwch yn dda, nad yw’r rhain gennym ar gyfer pob plwyf.

Mynegai Achau Rhyngwladol (IGI):  Os nad ydych yn hollol siŵr o ddyddiad neu leoliad rhyw ddigwyddiad megis bedydd, fe allech chwilio yn y Mynegai hwn sy’n cael ei gasglu gan Eglwys Crist Iesu Saint y Dyddiau Diwethaf.  Mae’r mwyafrif o’r nodiadau yn rhai ar gyfer bedydd gyda rhai priodasau - ond dim claddedigaethau.  Gweler hefyd http://www.familysearch.org/

Dechrau eich gwaith ymchwil:

Canlyniadau Cyfrifiad:  Mae’r cofnodiadau hyn ar gael i’r cyhoedd eu gweld ar ôl 100 mlynedd.  Maent yn ddefnyddiol iawn i haneswyr teuluol ar ôl 1851 lle mae’r wybodaeth sydd ar gael yn cynnwys enwau, lle geni, perthynas penteulu'r aelwyd, oed, gwaith a chyfeiriad.

Cofrestri Etholiadol: Mae’r cofnodiadau hyn yn rhoi enwau’r bobl oedd yn gymwys i bleidleisio, a’u cyfeiriadau.  Mae’r cofrestri wedi’u trefnu fel arfer yn ôl stryd ac felly y mae’n weddol hawdd casglu rhestr o enwau’r rhai oedd yn byw mewn tÅ· arbennig.  Roedd yr hawl i bleidleisio wedi’i chyfyngu hyd ddechrau’r 20fed ganrif.

Arysgrifiadau ar Gofebau: Mae Cymdeithas Hanes Teuluol Gwynedd wedi gwneud arolwg o nifer o eglwysi (a rhai capeli), ac wedi casglu mynegai o arysgrifiadau cerrig beddi.  DS Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’ch hynafiaid yma, efallai mai’r rheswm am hynny yw nad oedd ganddynt garreg fedd.

Cofnodiadau Profiant:  Mae yna ychydig o gofnodiadau gwreiddiol sy’n cael eu cadw gan Wasanaeth Archifau Ynys Môn er y gellir gweld rhai ewyllysiau mewn casgliadau cyfreithwyr.  Er hynny, mae gennym fynegai i brofiant am y cyfnod 1699-1858.

Papurau Newydd:  Mae’r dogfennau hyn yn ddefnyddiol iawn gan eu bod yn aml yn cynnwys ysgrifau coffa a datganiadau teuluol am enedigaethau, priodasau a marwolaethau.  Nodwch os gwelwch yn dda i’r datganiadau hyn ddechrau’n weddol hwyr yn Ynys Môn – hy cyn y rhyfel byd cyntaf.

Mapiau Degwm a Phennu Degwm:  Mae mapiau degwm a’r dyfarniadau sydd gyda hwy yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth am berchenogaeth tir a deiliadaeth yng nghanol y 19eg ganrif.  Mae’r dogfennau hyn yn nodi enwau'r perchenogion a’r deiliaid ac fe allant fod yn ddefnyddiol iawn pan ddefnyddir hwy ochr yn ochr ag adnoddau eraill.

Cofnodiadau Treth Dir:  Dyma ffynhonnell werthfawr arall gan fod rhai i bob plwyf bron yn niwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif.  Rhai ffynonellau defnyddiol arall yw’r cofnodiadau Treth Ffenestr a’r Cofnodiadau Treth Aelwyd lle bônt ar gael.

Cofnodiadau Addysgol:  Mae cofnodiadau fel llyfrau log ysgol yn werth edrych arnynt oherwydd weithiau maent yn crybwyll disgyblion unigol.  Nodwch, os gwelwch yn dda, bod mynediad i’r dogfennau hyn sy’n cynnwys gwybodaeth sensitif, wedi’i gyfyngu. 

Cofnodiadau Deddf y Tlodion:   O’r 16eg i’r 19eg ganrif, fe ddiffiniodd nifer o ddeddfau seneddol sut y dylai plwyf ofalu am ei dlodion oedd angen cymorth ariannol neu unrhyw gymorth arall.  Roedd swyddogion y plwyfi yn ofalus iawn wrth gadw cofnodion ac felly fe ellir canfod swmp o wybodaeth yn dangos y perthynas rhwng aelodau’r teulu a’r plwyf.  Fe ellir canfod cofnodiadau defnyddiol eraill yn ymwneud â Deddfau’r Tlodion yng nghofnodiadau’r Llysoedd Chwarter.

Yn olaf…

Nid yw’r dudalen hon wedi’i bwriadu i fod yn rhestr ddihysbydd o ffynonellau ar gyfer canfod hanes teuluol.  Pe byddech yn hoffi cael mwy o wybodaeth am ymchwilio i hanes eich teulu, dewch i gysylltiad â Gwasanaeth Archifau Ynys Môn, os gwelwch yn dda.

Mae'r wybodaeth ar y dudalen yma ar gael mewn ffurf taflen i chi brintio allan a chadw - gweler yr atodiad PDF isod.


Atodiadau

Bydd y ffeiliau canlynol yn agor yn ei rhaglenni perthnasol (ee Darllenydd Adobe Acrobat, Word). Mae pob atodiad yn agor yn yr un ffenestr porwr. Cliciwch ar y botwm "Back" ar eich porwr i ddychwelyd i'r wefan hon.

I weld ffeiliau PDF ar ein gwefan byddwch angen Darllenydd Adobe Acrobat fersiwn 5 neu uwch. I ddadlwytho'r meddalwedd am ddim, ymwelwch â gwefan Adobe

Am gymorth gyda darllen ffeiliau PDF, ymwelwch â thudalennau hygyrchedd Adobe

Acrobat/PDF FileTaflen Hanes Teulu
Math o Ddogfen:Acrobat/PDF File
Fformat y ddogfen:103k

Diwygiad Diweddaraf: 27/07/2009
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057