Mae cynllun newydd wedi'i lawnsio gan Taith. Mae'r gwasanaeth gwasanaeth pwysig newydd ar gyfer trigolion gogledd Cymru sy’n anelu at leihau'r nifer o geir ar y ffyrdd, lleihau llygredd, arbed arian ac i amddiffyn yr amgylchedd.
Mae’r gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim, North Wales Care Share, yn apelio at unrhyw un sy’n gwneud taith ar ffyrdd gogledd Cymru, boed yn teithio i’r gwaith, gyrru’r plant i’r ysgol neu’n gwneud y daith siopa wythnosol ac eisiau lleihau'r nifer o deithiau maent yn gwneud yn y car.
Beth yw Rhannu Car?
Rhannu car yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn rhannu car ac yn teithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn galluogi pobl i elwa o gyfleuster y car, gan leihau'r problemau sy'n gysylltiedig â thagfeydd a llygredd.
Pryd alla i rannu car?
Gallwch rannu car ar gyfer unrhyw daith - teithio i'r gwaith, gwneud y siopa wythnosol, mynd â'r plant i'r ysgol, mynd i wylio'r gêm ar y penwythnos, teithio i gwyl, digwyddiad neu sioe, mynd i'r brifysgo
Beth yw manteision Rhannu Car?
- arbed arian - gall teithio gydag eraill ostwng eich costau teithio hyd at £1000
y flwyddyn.
- lleihau nifer y ceir ar y ffordd - gan olygu bod llai o dagfeydd, llai o lygredd a llai o broblemau parcio.
- darparu ateb go iawn i'r problemau cludiant mewn ardaloedd gwledig.
- mae'n rhoi mwy o ddewis i weithwyr a chyflogwyr o ran teithio
- lleihau'r angen am gar preifat.
Cofrestrwch eich manylion trwy ddilyn y linc isod