Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 
Lleoliad Presennol: | newyddion

Llwyddo denu arian i adeiladu ysgol arbennig newydd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi croesawu'r newyddion fod cais am arian grant i adeiladu ysgol newydd wedi bod yn llwyddiannus.

Mae Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno, mewn egwyddor, i gyfrannu £7.6miliwn tuag at adeiladu ysgol arbennig newydd ar gyfer Ynys Môn.

Mae'r ysgol bresennol - Ysgol y Bont - wedi ei lleoli ar Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cefni, ac fe'i hadeiladwyd yn y 1970au cynnar. Mae dros 70 o ddisgyblion gydag anawsterau dysgu ac anableddau yn mynychu'r ysgol ar hyn o bryd.

Y safle sydd wedi ei phenodi ar gyfer adeiladu'r ysgol newydd yw campws Ysgol Gyfun Llangefni a Phlas Arthur, ac mae ymgynghori ar yr opsiwn yma eisoes wedi cychwyn.

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg, Gwyn Parri, "Rydym yn hynod o falch o fod wedi derbyn cadarnhad mewn egwyddor o'r cyllid yma. Roedd cyflwyno'r cais i'r Cynulliad yn broses heriol a oedd angen cefnogaeth amryw o adrannau o fewn y Cyngor, ac rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr am eu cyfraniadau."

Ychwanegodd, "Y gobaith yw y bydd yr ysgol newydd yn agor ei drysau yn ystod mis Medi 2013."

DIWEDD 23.7.10
Am ragor o wybodaeth: cysylltwch gyda Swyddfa'r Wasg - dilynwch y ddolen isod.


Gweler Hefyd

Diwygiad Diweddaraf: 23/07/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057