Mae Cynllun Busnes Corfforaethol 2010/11 newydd Cyngor Sir Ynys Môn wedi ei gyhoeddi.
Mae’r cynllun newydd (gynt wedi ei enwi’n Gynllun Gwella) yn ddogfen sy’n ‘edrych ymlaen’ ac sy’n gosod blaenoriaethau gwaith yr Awdurdod am y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’n seiliedig ar y pum blaenoriaeth corfforaethol, a gafodd eu datblygu a’u mabwysiadu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’r blaenoriaethau hyn nawr yn rhoi sail gadarn ar gyfer datblygiadau a gwelliannau parhaus yn y dyfodol.
Y flwyddyn hon, mae’r ddogfen wedi ei hail-frandio fel y ‘Cynllun Busnes Corfforaethol 2010/11’ er mwyn adlewyrchu ymrwymiad yr Awdurdod i agwedd newydd o gynllunio a gwella gwasanaethau.
Pwysleisiodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Clive McGregor, “Mae’r Awdurdod yn wynebu sawl sialens sylweddol, yn arbennig effaith y gostyngiad mewn cyllidebau ar ddarparu gwasanaeth. Rydym yn rhoi sylw i’r materion hyn trwy ailedrych ar ein blaenoriaethau yn ogystal â sut y mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy ein Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy - elfen allweddol o’n blaenoriaethau gwella.”
“Mae’r Cynllun Busnes Corfforaethol hefyd yn rhoi pwyslais ar raglenni mawr megis fframwaith Ynys Ynni i gynnal adfywio economaidd, a mentrau
partneriaeth/cydweithio er mwyn gwneud gwell defnydd o’n hadnoddau a hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr Ynys.”
Ychwanegodd Y Cynghorydd Cliff Everett, deilydd portffolio Llywodraethu Corfforaethol, “Blaenoriaeth bwysig arall yw’r pwyslais parhaol ar wella trefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor fel ymateb i Arolwg Llywodraethu Corfforaethol y llynedd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn sawl maes, ond mae’n rhaid i ni sicrhau fod yr adferiad yn cael ei gynnal trwy’r Awdurdod.”
Y Cynllun Busnes Corfforaethol yw’r cyntaf o ddau gynllun y mae gofyn i gynghorau eu cyhoeddi o dan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Mae’r ail gynllun - sy’n cael ei gyhoeddi ym mis Hydref - yn edrych ar sut y mae Cynghorau wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.
DIWEDD 26.7.2010
Am ragor o wybodaeth: Gwen Sion, Swyddfa’r Wasg (01248) 752128
Nodiadau i olygyddion:
Mae’n bosib lawrlwytho’r Cynllun Busnes Corfforaethol 2010/11 drwy fynd i:
http://www.ynysmon.gov.uk/../../../upload/public/attachments/128/cynllungwellamon201020111.pdf
Amcan strategol newydd y Cyngor Sir fydd i ‘hyrwyddo a gwarchod buddiannau’r Ynys yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.’
Wrth wneud hyn, bydd yr Awdurdod yn gweithio tuag at gyflawni pum blaenoriaeth strategol, sef:
Blaenoriaeth Strategol 1:
Gwella enw’r Cyngor a’r Ynys
Blaenoriaeth Strategol 2:
Diogelu a datblygu economi’r Ynys
Blaenoriaeth Strategol 3:
Adeiladu a chefnogi cymunedau cynaliadwy
Blaenoriaeth Strategol 4:
Hyrwyddo cymunedau iach, diogel a theg
Blaenoriaeth Strategol 5:
Gwasanaethau fforddiadwy ac effeithiol