Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 
Lleoliad Presennol: | newyddion

Stondin y Cyngor ar ei newydd wedd yn Sioe Môn 2010

Mae pafiliwn Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael ei weddnewid eleni er mwyn canolbwyntio ar gyfeiriad newydd y Cyngor.

Bydd y pafiliwn newydd yn cael ei agor yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor Sir, Selwyn Williams, am 10.00am Dydd Mawrth, Awst 10fed ac rydym yn annog aelodau o’r cyhoedd i ymweld â’r pafiliwn dros ddeuddydd y sioe, gan fod rhaglen brysur o ddigwyddiadau ar y gweill.

Y flwyddyn hon bydd tair ardal o fewn y babell, o dan y themâu ‘Pobl’, ‘Economi’ ac ‘Amgylchedd’.  Yn ogystal, mi fydd yna Ddesg Groeso ganolig er mwyn i’r cyhoedd gael gwneud ymholiadau a holi am waith y Cyngor.

Yn yr ardal ‘Pobl’, mi cyfle i brofi’ch ffitrwydd drwy ddefnyddio her rwyfo ryngweithiol a chyfle i fesur braster y corff, ac mi fydd rhai sy’n gwneud addewid i wella eu hiechyd yn cael pecyn arbennig.  Tu allan i’r pafiliwn, mi fydd y tîm datblygu chwaraeon yn gosod her beicio mynydd i’r cyhoedd.

Fel rhan o’r arddangosfa treftadaeth yn yr adran ‘Amgylchedd’, mi fydd paentio wyneb Celtaidd dros y deuddydd, ac mi fydd canolfan wybodaeth symudol newydd sbon y Cyngor yn llawn o syniadau am bethau i’w gwneud ar yr ynys trwy’r flwyddyn.

Os ydych am ychydig o adloniant, galwch i mewn i weld cwmni theatr Fran Wen yn dod a bywyd mewn carchar yn oes Fictoria yn fyw mewn perfformiad arbennig rhwng 3-4pm dydd Mawrth, neu cymerwch gyfle i ymlacio yng nghwmni Arfon Wyn a’i Fand wrth iddynt berfformio sesiynau dros y deuddydd.

Mi fydd pafiliwn y Cyngor hefyd yn cynnal sawl lansiad yn ystod Sioe Môn.  Ar ddydd Mawrth, mi fydd Seremoni Gwobrwyo Gofalwyr Môn am 10.30am ac mi fydd lansiad Rhaglen Cefnogi Dementia Plas Crigyll am 1pm.  Ar y dydd Mercher, mi fydd Pecyn Cymorth i Rieni yn cael ei lansio gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn am 10.30am, ac mi fydd cynllun newydd Llwyddo’n Lleol, sy’n ceisio datblygu sgiliau entrepreneuraidd ac adnewyddu hyder pobl ifanc yn economi’r ynys, yn cael ei lansio am 3pm.

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fod yn agored, bydd aelodau o Bwyllgor Gwaith y Cyngor hefyd ar gael bob dydd rhwng 2-3pm i ateb eich cwestiynau a thrafod materion pwysig.  Meddai Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, “Rydym yn awyddus i fod yn Gyngor agored a chyraeddadwy, ac felly mae hwn yn gyfle da i ni gael cyfarfod ag ymwelwyr i’r Sioe er mwyn trafod unrhyw faterion pwysig neu bryderon.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Cyngor, Selwyn Williams, “Mi fydd digon i’w weld a’i wneud yn y pafiliwn eleni, ac rwy’n estyn gwahoddiad cynnes i bawb i ddod i’n gweld ni yn Sioe Môn.”

Bydd te a choffi yn cael ei weini gan staff o Llys Llewelyn dros y deuddydd, ac mi fydd brechdanau a chacenni hefyd ar werth.  Rhif 88 yw’r stondin, ac rydym ar Rodfa C - un cam yn ôl o’r Prif Cylch ger y Neuadd Fwyd.

DIWEDD 30.7.10

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg 01248 752 128


Gweler Hefyd

Diwygiad Diweddaraf: 30/07/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057