Mae un o drigolion Ynys Môn wedi cael ei herlyn am beidio cydymffurfio â rhybudd gorfodaeth cynllunio a gafodd ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caergybi ar Orffennaf 22, bu i Kirsten Tickner o Fryn Du bledio’n euog i beidio a chydymffurfio â rhybudd gorfodaeth cynllunio a gafodd ei gyflwyno o ganlyniad i storio nifer o gerbydau a deunydd sgrap heb ganiatâd ar dir Bryn Afon, Bryn Du. Cafodd ddirwy o £1000 a’i gorchymyn i dalu costau erlyn o £150.
Pwysleisiodd John I. Williams, Arweinydd Tîm - Gorfodaeth, Mineralau a Gwastraff, “Mae’r erlyniad yma’n dilyn cyfnod hir o drafod i geisio datrys y broblem yn gyfeillgar. Fodd bynnag, yn y diwedd bu hyn yn aflwyddiannus a doedd felly dim dewis gan y Cyngor ond erlyn. Cyfrifoldeb y diffynnydd fydd clirio’r tir, ac fe fydd methiant i wneud hyn yn golygu gweithredu pellach ar ran y Cyngor.
Ychwanegodd y deilydd portffolio Cynllunio ac Amgylchedd, Y Cynghorydd John Chorlton, “Mewn sefyllfa fel hyn, y cam olaf yw erlyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig i ni fel Cyngor ddangos pa mor bwysig yw gwarchod yr amgylchedd lleol, gan erlyn y rhai hynny sydd yn ceisio storio deunydd sgrap y tu allan i reolau cynllunio”.
Diwedd 30.7.10
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 01248 752 128