Rydym yn gwella effeithlonrwydd ein casgliadau gwastraff i leihau’r effaith amgylcheddol o gasglu gwastraff ac i sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth gorau posib yn y dyfodol.
Bydd y wybodaeth isod yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’ch dyddiad casglu, ynghyd â lliw’r bin byddwch angen ei roi allan pob wythnos.
Yn y tabl isod, rydym wedi rhestru rhai o drefi a phentrefi mwyaf yr ynys; mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Ynys Môn yn byw oddi fewn i ffiniau’r ardaloedd hyn, felly dylai fod yn rhwydd i’r rhan fwyaf ohonoch ddarganfod eich diwrnod casglu o’r tabl.
Os nad ydych yn siŵr bod eich cyfeiriad wedi’i gysylltu gydag unrhyw un o’r ardaloedd sydd wedi’i rhestru yn y tabl, yna cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff er mwyn dod o hyd i’ch diwrnod casglu. Gweler y manylion cyswllt isod.
| Dydd Llun | | Dydd Mawrth | | Dydd Mercher | | Dydd Iau | | Dydd Gwener | | | Bae Trearddur | B | Amlwch | B | Benllech | A | Aberffraw | A | Biwmares | B | | Caergybi | | Bae Cemaes | B | Bodffordd | B | Bethel | B | Llanddona | B | | Pontrhydybont* | B | Carreglefn | A | Brynrefail to Moelfre | A | Bodedern | A | Llandegfan | A | | Rhoscolyn | B | Llanbabo | A | Brynteg | A | Bodorgan | A | Llanfaes | B | | | | Llanddeusant | A | Llanbedrgoch | A | Bryngwran | A | Llanfairpwll | A | | | | Llanerchymedd | B | Llangefni | B | Brynsiencyn | B | Llangoed | B | | | | Llanfachraeth | A | Llynfaes | B | Caergeiliog | A | Llansadwrn | A | | | | Llanfaethlu | A | Marianglas | A | Dwyran | B | Penmon | B | | | | Llanfairynghornwy | A | Moelfre | A | Gaerwen | B | Penmynydd | A | | | | Llanfechell | A | Penysarn | A | Gwalchmai | A | Pentraeth | B | | | | Llanrhuddlad | A | Rhosmeirch | B | Hermon | B | Porthaethwy | A | | | | Porth Llechog | B | Rhostrehwfa | B | Llanddaniel | B | Rhoscefnhir | B | | | | Rhosgoch | B | Talwrn | B | Llanfaelog | A | | | | | | Rhosybol | B | Traeth Coch | A | Llangaffo | A | | | | | | Rhydwyn | A | Tynlon | B | Llangristiolus | B | | | | | | Trefor | A | | | Malltraeth | B | | | | | | Y Fali | A | | | Niwbwrch | B | | | | | | | | | | Pencaernisiog | A | | | | | | | | | | Pontrhydybont* | A | | | | | | | | | | Rhosneigr | A | | | | | | | | | | Tŷ Croes / Bryn Du | A | | |
|
* Pont Rhyd y Bont: Casgliad Dydd Iau ar gyfer eiddo ar ochor Ynys Môn o'r bont a Dydd Llun ar gyfer eiddo ar Ynys Cybi.
Wrth edrych ar y tabl, gwelwch y llythyren A neu B gyferbyn a’r dyddiad casglu ar gyfer pob parth. Mae’r llythrennau yn cyfeirio at yr amserlen casglu ar gyfer eich bin du a’ch bin gwyrdd, felly bydd angen i chwi ddefnyddio'r tabl er mwyn pennu pa amserlen sy’n briodol i chi h.y. A neu B. Pan fyddwch wedi penderfynu hyn, cewch lawr lwytho'r calendr priodol, gan ein bod wedi amgáu Calendr A a Calendr B fel dogfennau PDF isod. Dylai preswylwyr Caergybi gysylltu â'r Adain Rheoli Gwastraff er mwyn dod o hyd i ba bin i'w roi allan
Bydd eich blychau ailgylchu yn cael eu casglu yn wythnosol.
Mae'r cerbydau casglu nawr yn cymeryd llwybrau gwahanol felly efallai bod amser casglu eich bin a'ch blychau ailgylchu wedi newid. Ar eich diwrnod casglu, cofiwch osod eich bin a'ch blychau ailgylchu allan cyn 7 y.b i sicrhau eu bod yn cael eu gwagio.
Manylion cyswllt ar gyfer yr Adain Rheoli Gwastraff:
Ffôn: 01248 752860
Ebost: gwastraff@ynysmon.gov.uk