Croeso i Wasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn.
Bob blwyddyn caiff miliynau o bunnoedd eu gwario ar adeiladu tai, siopau, ffatrïoedd a chyfleusterau ymwelwyr newydd ar Ynys Môn. Mae'r datblygiad hwn yn helpu'r economi lleol, a gall gyfrannu at wella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol. Mae'n ddatblygiad sydd bron bob amser angen caniatâd cynllunio'r cyngor sir sy'n gweithredu fel yr awdurdod cynllunio lleol.
Prif nodau'r Gwasanaeth Cynllunio yw gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol trwy hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a thrwy reoli datblygiad er lles y cyhoedd. Gallwn gynorthwyo cyflawni'r amcanion hyn trwy roi cyngor eglur i chi ar y gyfundrefn gynllunio.
Byddwch yn falch o wybod fod rhyw 90% o geisiadau cynllunio yn cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall datblygiad newydd fod yn bwnc llosg a gofyn am sylw gofalus. Mae'r Gwasanaethau Cynllunio yma i wasanaethu Ynys Môn ac rydym yn sicr y gallwn gael datblygiad o'r ansawdd uchaf trwy weithio gyda'n cwsmeriaid.
Gwaith y Gwasanaeth Cynllunio?
Mae gan Wasanaeth Cynllunio'r Cyngor chwe phrif faes gwaith yn cael ei wneud gan o ddeutu 50 o staff mewn gwahanol dimau:
Rheoli Cynllunio:
ceisiadau cynllunio ac archwiliadau, cwynion a thorri rheolau, mwynau / Gwastraff, gorfodaeth, apeliadau
Chwilotwch drwy lyfrgell gofnodion y cyngor er mwyn darganfod pa bynciau y trafodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Rheoli Adeiladu:
ceisiadau ac archwiliadau, cwynion a thorri rheolau, adeileddau peryglus
Yr Amgylchedd Adeiledig:
ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, gwelliannau masnachol, cyngor ar ddylunio a chadwraeth
Cefn Gwlad:
wardeinio a rheoli safleoedd, ardal o harddwch naturiol eithriadol, Parc Gwledig y Morglawdd, Nant y Pandy Llangefni
Tirwedd:
coed, gwrychoedd, Coed Cymru / rheoli coetir, cyngor ar ddylunio tirwedd
Polisi Cynllunio:
cynllun datblygu, hysbysrwydd ac ymchwil, cynllunio cymunedol / Agenda 21 Lleol, Bioamrywioldeb