Ble mae ein swyddfeydd, safleoedd ac adeiladau?
Lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni - ym mhrif swyddfa’r cyngor ac mewn adeiladau eraill yn y dref.
Mae gennym hefyd swyddfeydd mewn lleoliadau eraill ar draws yr ynys. Ceir map Adobe .pdf sy’n dangos lleoliad y pencadlys ar waelod y dudalen.
Ceir manylion am y mwyafrif o swyddfeydd ac adeiladau’r cyngor yn yr adain hon. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd ein hadeiladau a’r cyfleusterau sydd ar gael ee toiledau, cyfleusterau newid baban.
Os ydych yn dymuno cyfarwyddiadau i ein llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac ysgolion, dilynwch y dolenni isod.
Yn yr adain hon
Ble mae prif swyddfeydd y cyngor?
Mae’r gwasanaethau canlynol wedi’i lleoli ym mhrif swyddfeydd y cyngor yn Llangefni: Iechyd Amgylchyddol; Cyllid (gan gynnwys treth cyngor, budd dâl tai a thaliadau); Tai; Gwasanaethau Cymdeithasol; Safonnau Masnach; Priffyrdd.
Ble mae neuadd y sir?
Lleolir y gwasanaethau canlynol yn Neuadd y Sir: Archifdy Ynys Môn; Gwasanaeth Cofrestru.
Ble mae ein swyddfeydd talu?
Mae’r cyngor yn gweithredu swyddfeydd talu yn Llangefni a Chaergybi ble gellwch dalu am eich treth cyngor ynghyd â gwasanaethau eraill.
Ble mae'r swyddfa addysg?
Lleolir brif swyddfeydd yr Adran Addysg a Hamdden ym Mharc Mount, Llangefni. Mae’r adran yn gyfrifol am y gwasanaethau canlynol: Archifau; Addysg; Hammden a Chymuned; Llyfrgelloedd a Gwybodaeth; Amgueddfeydd a Diwylliant.
Ble mae'r Archifdy?
Lleolir Archifdy Ynys Môn yn y stad ddiwydiannol, Llangefni.
Ble mae swyddfeydd y gwasanaeth cynllunio?
Lleolir y gwasanaethau canlynnol yn swydda’r Gwasanaeth Cynllunio: Gwasanaeth Cynllunio - Rheoli Adeiladau; Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd; Gwasanaeth Cefn Gwlad; Rheoli Cynllunio; Gwasanaethau Amgylcheddol - Rheoli Gwastraff.
Ble mae Canolfan Fusnes Môn
Mae Canolfan Gwasanaethau Busnes Ynys Môn wedi ei leoli ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni ar gyrion tref Llangefni.
Ble mae'r swyddfa gofrestru, Llangefni
Lleolir prif swyddfa cofrestru genedigaethau, phriodasau, partneriaeth sifil a marwolaethau yn Neuadd y Sir, Llangefni.
Ble mae'r safleoedd gwastraff domestig ac ailgylchu ar yr ynys?
Rhestr o'n safleoedd ailgylchu a gwastraff
Ble mae swyddfeydd datblygu'r we
Mae ein swyddfa wedi ei leoli yn Stad Diwydiannol Llangefni ar gyrion tref Llangefni.




