Gwasanaethau'r Cyngor:

Ble mae swyddfeydd y Gwasanaeth Cynllunio?

Lleolir y gwasanaethau canlynnol yn swydda’r Gwasanaeth Cynllunio: Gwasanaeth Cynllunio - Rheoli Adeiladau; Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd; Gwasanaeth Cefn Gwlad; Rheoli Cynllunio; Gwasanaethau Amgylcheddol - Rheoli Gwastraff.

Gyda char o’r A55

Wrth deithio i’r Ynys ar yr A55 dilynwch yr arwyddion am Gaergybi ac arhoswch ar y lôn fawr nes eich bod yn cyrraedd y tro am Langefni a’r B5114.

Wrth agosáu at Langefni ar y B5114, ar ffiniau’r dref, cymerwch droad i’r dde am y Stad Ddiwydiannol.  Fel yr ydych yn mynd i lawr y bryn, trowch i’r chwith yn y gylchfan a daliwch ymlaen am hanner milltir. Ewch yn syth dros y gylchfan fechan. Mae’r troad am feysydd parcio’r cyngor ar y chwith ar ôl Hyfforddiant Môn Training. Mae rhai llefydd wedi’i neilltuo ar gyfer y cyhoedd.

Ar ôl parcio, cerddwch i ddiwedd y maes parcio ar y dde (bydd swyddfeydd y cyngor ar eich chwith). Mae’r swyddfa cynllunio wedi’i leoli yn y Rovacabins wrth waelod y maes parcio.

Gwnewch eich ffordd i’r mynediad sydd yn nhu blaen yr adeilad, ble mae croesawfan os bydd angen rhagor o gymorth

Ar droed o ganol y dref

O’r cloc yng nghanol y dref: ewch drwy’r maes parcio ger neuadd y dref. Ewch i’r chwith ar draws y bont fechan dros yr Afon Cefni. Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i gyfeiriad swyddfeydd y cyngor. Ewch i’r dde heibio mynedfa’r cyngor a chymerwch y ramp neu’r grisiau i fyny i’r maes parcio uwch. Mae’r swyddfa gynllunio wedi’i leoli yn y Rovacabins wrth waelod y maes parcio.

Am ragor o wybodaeth gofynnwch wrth y dderbynfa.

Pa mor hygyrch yw’r adeilad?

Mae’r adeilad ar ddwy lefel ond mae ystafelloedd cyfarfod i’w cael ar y llawr gwaelod.

Pa gyfleusterau sydd ar gael?

Ceir toiled cyhoeddus ar y llawr gwaelod.

Diweddariad diwethaf: 10 Gorff 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?