Horizon a Chyngor Sir Ynys Môn yn llofnodi cytundeb cynllunio
Mae Horizon Nuclear Power a Chyngor Sir Ynys Môn wedi llofnodi Cytundeb Perfformiad Cynllunio, sy’n nodi cam arall tuag at ddatblygu gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa.
Mae’r Cytundeb yn nodi’r trefniadau gwaith ar gyfer y ddau barti o ran y gweithgareddau penodol y bydd rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn eu cyflawni’n llawn ac yn ddiduedd er mwyn asesu cynigion Horizon Nuclear Power.
Mae’r Cytundeb yn elfen safonol o’r drefn gynllunio ar gyfer prosiect isadeiledd mawr. Mae’n darparu’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar yr awdurdod cynllunio lleol i wneud asesiad annibynnol o ddatblygiad arfaethedig gan ddal i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Dywedodd Richard Parry Jones, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Ynys Môn: “Bydd y Cytundeb yn galluogi Cyngor Sir Ynys Môn i ddatblygu’r capasiti a’r adnoddau angenrheidiol i ddelio’n effeithiol â chynigion Horizon heb effeithio’n andwyol ar y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol. Rwy’n hyderus rwan y gallwn ddelio’n effeithiol â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig newydd yn Wylfa, a hynny er budd tymor hir yr ynys.”
Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon Nuclear Power: “Rydym yn gweithio’n galed iawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gyngor Sir Ynys Môn am ein cynlluniau i ddatblygu atomfa newydd. Bydd y Cytundeb yn sicrhau bod gan y Cyngor yr adnoddau i graffu’n fanwl ar ein cynigion.
“Bydd y Cytundeb yn helpu i sicrhau trefn asesu drylwyr o ddatblygiad mawr cymhleth ochr yn ochr â llwyth gwaith arferol y Cyngor.”
Gall unrhyw un sydd â chwestiynau am brosiect Horizon ffonio’r llinell wybodaeth am Wylfa ar 0800 954 9516 neu drwy anfon e-bost i wylfaenquiries@horizonnuclearpower.com.
Gallwch weld copi o’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio ar-lein drwy fynd i: www.ynysmon.gov.uk/cpc
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Leon Flexman - 07989 493320 neu leon.flexman@horizonnuclearpower.com
Claire Loveday - 07717 300379 neu claire.loveday@horizonnuclearpower.com
Nodiadau i olygyddion:
Mae Horizon Nuclear Power Ltd yn fenter ar y cyd a sefydlwyd yn 2009 gan E.ON UK ac RWE npower. Mae’r cwmni’n datblygu cynigion ar gyfer gorsafoedd ynni niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn ac yn Oldbury-on-Severn yn swydd Gaerloyw.
Byddai gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa yn darparu digon o drydan carbon isel ar gyfer dros bum miliwn o gartrefi. Disgwylir y bydd tua 5000 o swyddi’n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu a thua 800 o swyddi gweithredol parhaol.




