Gwasanaethau'r Cyngor:

Blwyddyn Newydd Werdd

Tra mae pawb wrthi’n brysur yn tacluso ar ôl Nadolig a Blwyddyn Newydd prysur, bydd y teulu Lawty o Amlwch yn gweld pa wastraff y gallant ei ailgylchu.

Y teulu Lawty gyda Elin Jones, Uwch Swyddog Rheoli Gwastraff, Cyngor Sir Ynys Môn

Enillodd Mrs Lawty gystadleuaeth a drefnwyd gan Dîm Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â faint o wastraffu ac ailgylchu sydd ar Ynys Môn ac yng Nghymru.

“Roedd yn bleser cael cyfarfod Mrs Lawty a’i theulu a chael cyflwyno’r wobr iddynt. Rwyf yn gweld sut enillon nhw’r gystadleuaeth, mae’r plant yn llawn gwybodaeth am ailgylchu ac yn helpu eu rheini i ailgylchu cymaint â phosib,” meddai Elin Jones, Uwch Swyddog Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn.

Yn y llun, mae Georgia 12, Elian 9, Lulu 4, a Ruby 2, a dderbyniodd eu gwobr yn ddiweddar, sef dwy ffrâm llun wedi eu gwneud o ddeunyddiau wedi’i ailgylchu. Cynhaliodd y Tîm Rheoli Gwastraff y gystadleuaeth yn Sioe Môn ac mewn digwyddiadau eraill yn ystod yr Haf. “Mae’n ffordd wych o gael siarad gyda phreswylwyr am y gwasanaethau ailgylchu ac annog pobl i feddwl sut y gallent leihau eu gwastraff ac ailgylchu mwy,” meddai Elin.

“Yn y Flwyddyn Newydd, mae pawb yn meddwl am glirio a thacluso ar ôl y Nadolig. Rwyf yn galw ar breswylwyr i stopio ac i feddwl beth ellir cael ei ailgylchu ac a fuasai rhywbeth yn ddefnyddiol i rywun arall cyn taflu eitem i’r bin,” meddai Elin. Gellir mynd ac eitemau mawr i ddwy ganolfan ailgylchu gwastraff domestig ar Ynys Môn neu mae’r Adain Rheoli Gwastraff yn rhedeg Gwasanaeth Casglu Gwastraff Domestig Swmpus lle y cesglir hyd at 4 eitem dwywaith y flwyddyn, am ddim.

Gallwch fynd a’ch hen goed Nadolig i’r canolfannau ailgylchu gwastraff domestig yng Ngwalchmai neu i Benhesgyn ger Porthaethwy lle caiff y coed eu compostio.

“Llongyfarchiadau i’r teulu Lawty, maent yn gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau ailgylchu a hoffwn ddiolch iddynt ac i bawb ar Ynys Môn sy’n ailgylchu. Yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’n bwysig cael gwared a’ch gwastraff yn gyfrifol ac i ddefnyddio’r gwasanaethau ailgylchu neu’r canolfannau ailgylchu gwastraff domestig ar Ynys Môn,” meddai’r Cynghorydd Dylan Jones, Ward Porth Amlwch.

Mae’r gwastraff yn y bin du yn cael ei yrru i safleoedd tirlenwi, proses gostus sydd hefyd yn niweidio’r amgylchedd. “Os gallwn ni ailgylchu mwy a lleihau mwy o’n gwastraff gallwn leihau’n heffaith ar yr amgylchedd. Mae ailgylchu fel mae’r teulu Lawty yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r amgylchedd,” meddai Elin.

Dyma Awgrymiadau Ailgylchu’r Cyngor ar gyfer y Flwyddyn Newydd:

  • ewch a’ch hen goed Nadolig i’r canolfannau ailgylchu gwastraff domestig ym Mhenhesgyn a Gwalchmai lle caiff y coed eu hailgylchu.
  • gallwch fynd a chardfwrdd, polystyren anhyblyg eangadwy gwyn, eitemau trydanol a gwastraff swmpus i’r canolfannau ailgylchu ym Mhenhesgyn a Gwalchmai.
  • os cawsoch ffôn symudol newydd y Nadolig yma, beth am ailgylchu eich hen ffôn. Mae nifer o ysgolion yn cael arian am hen ffonau.
  • os oes gennych anrheg ddiangen yna beth am ei basio ymlaen i rywun arall neu rhowch e’n rhodd i rafflau elusen/bingo/tombola yn ystod y flwyddyn.
  • edrychwch ar ddyddiad bwyd parti dros ben, gall jar o bicl gadw’n hirach nag eitemau darfodus.
  • peidiwch â thaflu bisgedi a phethau da a brynwyd dros y Nadolig, cadwch nhw ar silff uchel. Byddant yn ddefnyddiol ar gyfer achlysur arbennig neu barti cyn y dyddiad gwerthu olaf ddod i ben.
  • os cawsoch ddillad newydd dros y Nadolig, yna gall eich hen ddillad fynd i siop elusen neu i’r biniau ailgylchu piws ar Ynys Môn. Mae’r holl decstilau a gesglir ar Ynys Môn yn mynd i Dyddyn Môn i’w gwerthu neu eu hail-brosesu.
  • gall eitemau o ansawdd gael eu gwerthu ar-lein neu defnyddiwch wefannau fel www.freecycle.org neu ‘Anglesey Freebay’ ar Facebook i gynnig eitemau am ddim.
  • eleni meddyliwch am y deunydd pacio bwyd sy’n cael ei ddefnyddio, allwch chi ei ffeindio heb ddeunydd pacio?
  • coginiwch eich prydau yn ffres, mae’n iachach ac rydych yn osgoi deunydd pacio sydd o amgylch prydau parod.

Diwedd

Cysylltwch â Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Prif Weithredwr
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752128
Ebost: cyfathrebu@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 9 Ion 2012 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?