Gwasanaethau'r Cyngor:

Talu ar-lein

Gallwch wneud nifer o daliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd: Visa, Mastercard, Maestro / Switch, Visa Delta, Electron.

Gallwch dalu

eraill yn cael eu hychwanegu fel y byddwn yn datblygu’r gwasanaeth

I dalu bydd angen i chi:

  • wneud yn siwr bod rhif eich cyfri gyda chi
  • wneud yn siwr eich bod yn sicr o’r maint i dalu
  • wneud yn siwr bod manylion eich cerdyn credyd / debyd gyda chi cyn dechrau

Mae gwneud taliad yn hawdd ond os ydych yn bryderus am rai agweddau o’r broses dalu, dylai’r dolenni i’r cwestiynau cyffredinol canlynol fod o gymorth i chi. Cewch eich trosglwyddo i’n hasiant trin taliadau Capita Software Services. Dilynwch eu cyfarwyddiadau ar-sgrin. Mae’r system talu ar-lein wedi’i amgryptio ac yn ddiogel. Pan fydd y taliad wedi’i gwblhau cewch e-bost i gadarnhau y taliad.

Am wybodaeth ar agweddau cyfreithiol talu ar-lein gwelwch Telerau ac amodau taliadau ar-lein.

Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Mae defnyddio’r gwasanaeth talu ar-lein ar y wefan hon yn tybio eich bod yn derbyn y telerau hyn.

Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn (“telerau”), yna peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd eich tâl yn cymryd i fyny i 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda’r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i’r cyngor gael ei hysbysu o’r tâl). Os yw eich tâl yn hwyr ac os yw camau adennill ar fin eu cymryd, dylech dalu gydag arian parod yn swyddfeydd y cyngor.

Am gymorth pellach neu i gysylltu ynghylch unrhyw ymholiad arall yn ymwneud â thaliadau ar lein e-bostiwch: arianwyr@ynysmon.gov.ukneu ffoniwch 01248 752015 a chaiff eich ymholiad ei anfon ymlaen i’r swyddog perthnasol.

Diweddariad diwethaf: 26 Hyd 2009 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?