Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol (NERS)


Ariennir y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol (CCYC/NERS) gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC/PHW), yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC/WLGA), awdurdodau lleol, a’r Byrddau Iechyd Lleol. 

Mae’n targedu cleientiaid sydd mewn perygl o ddatblygu afiechyd cronig, darparu cyfle ar gyfer cyfeirio i gael mynediad i raglen ymarfer a oruchwylir o ansawdd tuag at iechyd a lles gwell.

Mae’r Cynllun, sydd wedi ei anelu at rai dros 17 oed, nad ydynt wedi arfer bod yn weithredol yn gorfforol yn rheolaidd ac sydd â chyflwr meddygol, wedi ei gynllunio i ddarparu cyfleoedd i ymarfer sy’n hwyliog, yn foddhaus ac y gellir eu hymgorffori i fywyd bob dydd.

Y cynllun

Ceir ystod eang o weithgareddau  campfa-seiliedig a dosbarth-seiliedig i ddewis o’u plith ar gyfer cleifion sydd wedi bod drwy raglen adfer neu wedi eu cyfeirio gan broffesiynolyn iechyd (meddyg teulu, nyrs, a ffisiotherapydd ayyb.).

Byddwch yn gallu cael mynediad i ystod eang o gyfleoedd a bydd y rhain ar gael  rhwng 16 a 32 wythnos y rhaglen (yn dibynnu ar gyflwr meddygol).

Y manteision

Mae’r manteision yn cynnwys: 

  • mae’r galon a’r ysgyfaint yn dod yn gryfach ac yn fwy effeithlon
  • mae cryfder cyhyrol yn cynyddu
  • mae cymalau’n dod yn gryfach 
  • gellir oedi dechrau osteoporosis 
  • gall braster corfforol a gor-bwysau gael eu lleihau 
  • gallai ymlacio a chwsg wella 
  • bod yn fwy abl i weithredu gweithgareddau byw bob dydd 
  • teimlo’n fwy effro ac egnïol 
  • cynnal ystum corff da 
  • cynorthwyo i normaleiddio pwysedd gwaed 
  • lleihau’r risg o ddatblygu clefyd siwgwr 
  • llai o risg o’r gwaed yn ceulo 
  • lleihau iselder a phryder
  • gwella hyder a hunan-barch

Am fanylion pellach, cysylltwch â ners@ynysmon.llyw.cymru

Cynllun Môn Actif 60+: Sesiynau ffitrwydd a llesiant

Mae’r Cynllun Môn Actif 60+ yn cynnig wyth wythnos o sesiynau ffitrwydd am ddim yn eich canolfan gymunedol neu neuadd bentref.

Bydd hyfforddwr cymwys yn darparu sesiwn ffitrwydd a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion.

Byddwyn yn talu gost y hyfforddwr. Ein nod yw gweithio gydag 8 lleoliad cymunedol rhwng Hydref-Rhagfyr 2023, gydag 8 cymuned arall ym mis Ionawr 2024.

Dywedwch wrthym pam fod eich canolfan yn haeddu lle