Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Môn Actif


#CadwMônYnActif

Mae amrywiaeth eang o gyfleustarau hamdden ar gael i bobl o bob oed a gallu ac mae ein prisiau yn rhoi gwerth ardderchog am arian. Mae 4 canolfan ar draws yr ynys - ymunwch ag un a cewch ddefnyddio unrhyw un.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon yn rhan o’n gwasanaeth Hamdden ac maent yn gweithio gyda phob rhan o’r gymuned i ddarparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae ganddom dîm o swyddogion arbenigol ar gael i gynnig cyngor ynghylch cyllido, datblygu clybiau a darparu gwahanol raglenni hyfforddiant a gweithgareddau.

Gweledigaeth Cyngor Sir Ynys Môn yw uno cenedl sy’n caru’r campau, lle mae pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes.