Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Datblygu chwaraeon anabledd


Cyfleoedd chwaraeon a hamdden ar gyfer pobl anabl ar draws Ynys Môn.

Menter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru a’r 22 awdurdod lleol ar draws Cymru yw Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru. Nod y fenter yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden o safon uchel yn y gymuned i bobl anabl ledled Cymru.

Ar Ynys Môn mae’r rhaglen yn cael ei hyrwyddo ai chyflwyno trwy Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru sydd wedi ei leoli o fewn yr Uned Datblygu Chwaraeon, Canolfan Hamdden Plas Arthur.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n anelu at:

  • greu clybiau newydd a rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i wella clybiau presennol
  • cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cyfranogi’n weithredol mewn clybiau, grwpiau a sesiynau chwaraeon
  • gwella ansawdd a nifer yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr mewn chwaraeon anabledd trwy addysgu hyfforddwyr
  • creu cyfleoedd newydd a datblygu cyfleoedd presennol i bobl anabl gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru

Os ydych chi’n hyfforddwr neu’n gwirfoddoli, gallwch gynnal cwrs Cynhwysiant Anabledd y DG. Cynhelir gweithdai i gynyddu ymwybyddiaeth o diwtora a hyfforddi ymgeisiwyr sydd ag anabledd.

Mae’r gweithdai Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd gan Typhoo Sport for All yn gyfres o weithdai a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Sefydliadau Chwaraeon Anabledd ym Mhrydain. Cefnogwyd datblygiad y gweithdai gan Typhoo Tea Cyf.

Athroniaeth y gweithdy yw teilwrio’r cynnwys ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan fel bod y gweithdai’n berthnasol i’w swyddogaethau (p’un a ydynt yn wirfoddolwyr neu’n cael eu cyflogi) a byddant yn gwella cyfleon a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl anabl drwy’r Deyrnas Gyfunol. FDSW yw’r unig ddarparwyr cymeradwy yng Nghymru ar gyfer y gweithdai hyn.

I gael gwybod mwy am UK DIT a sut i ddod o hyd i gwrs yn agos i chi ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno ‘insport’ i ddarparu sesiynau cynhwysol o ansawdd ar gyfer pobl anabl. Mae’n broses ddynodi ac achredu pedair haen (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) y gall unrhyw glwb chwaraeon fynd drwyddi i ddangos eu bod yn ymroddedig i ddarparu a chyflenwi chwaraeon cynhwysol, a chyfleon ac arferion a fydd yn sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad i’r lefelau o gyfranogiad/perfformiad y maent yn dymuno eu cael.

Cadwch lygad am eu logo ‘insport’ sy’n amlygu rhai o’r clybiau chwaraeon mwyaf cynhwysol yng Nghymru.

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Uned Ddatblygu Chwaraeon yn Ynys Môn os ydych yn cymryd rhan mewn clwb sy’n darparu chwaraeon cynhwysol sydd heb ei gydnabod trwy’r rhaglen insport.

Mae yna nifer o glybiau a sesiynau wythnosol sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ar gyfer pobl anabl. Mae’r rhestr o’r cyfleon i’w gweld isod.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon a gweithgareddau sydd ar gael yn Ynys Môn ar hyn o bryd, ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru os gwelwch yn dda a chliciwch ar “yn eich ardal”.