Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Amdan y Grant Cist Cymunedol


Cynllun cymorth grant gan Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw hwn. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn gorfforol egnïol yn amlach. Y grant uchafswm yw £1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mae Cist Gymunedol Ynys Mon yn cael ei weinyddu gan Cyngor Sir Ynys Môn.

Prif amcan Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ‘Dringo’n Uwch’, yw cynnydd a gynhelir yn y cyfraddau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.  Bydd cynllun y Gist Gymunedol yn cyfrannu at gyrraedd y targed hwn

Diben y cynllun 

Prif ddiben y Gist Gymunedol yw cefnogi prosiectau da a fydd yn creu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol newydd neu well sy’n ychwanegol at yr hyn sy’n cael ei weithredu eisoes ac na fyddai’n bosibl heb grant. Mae’r gronfa’n hyblyg iawn ond ceir rhai rheolau ynghylch beth sy’n gymwys ac yn anghymwys am gefnogaeth.  Diben y cynllun yw cefnogi prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd yn:

  • annog mwy o bobl i fod yn gorfforol egnïol yn amlach (5 x 30 munud i oedolion a 5 x 60 munud i blant o ymarfer cymedrol yr wythnos)
  • cynyddu a chodi safonau’r cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol 
  • cyfrannu tuag at gyfranogiad oes a chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynaladwy
  • cyfrannu at wneud Cymru’n genedl iachach, fwy cynhwysol
  • annog gwirfoddolwyr a phencampwyr cymunedol drwy ddatblygu arweinwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol newydd, hyfforddwyr chwaraeon a swyddogion
  • annog partneriaethau gydag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â gwell iechyd, gweithgarwch corfforol, datblygiad cymunedol, diogelwch cymunedol, cynnwys yn gymdeithasol, adfywiad ac adnewyddu