Cofnodion ac archifau
Croeso i hafan Archifau Môn

Mae Archifau Môn yn casglu ac yn cadw dogfennau hanesyddol sy’n ymwneud ag Ynys Môn ac yn sicrhau eu bod ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu gweld.
P’un a ydych am olrhain hanes eich tŷ, darganfod gwreiddiau eich cymdogaeth neu olrhain hanes eich teulu, mae ein staff cymwynasgar a llawn gwybodaeth yma i’ch helpu.
Am ychwaneg o wybodaeth am ein casgliadau a’n gwasanaethau, defnyddiwch y botymau llywio ar y dde.
Newyddion diweddaraf - Cysylltwch â ni cyn ymweld
Mae Gwasanaeth Archifdy Môn yn gweithredu system archebu. Rhaid i ddefnyddwyr archebu lle yn yr ystafell chwilio cyn eu bod yn ymweld. Gallwch archebu lle trwy ddod i’r Archifdy, trwy e-bost, ffôn neu lythyr. Nodwch bod angen archebu lle ar gyfer pob person sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth. Os bydd gennych unrhyw ofynion arbennig, gadewch i ni wybod amdanynt pan fyddwch yn archebu lle.
Dolenni gwe archifau
Mae`r dudalen yma yn cynnwys nifer o gysylltiadau i safleoedd gwe perthnasol a fydd o ddiddordeb i`n defnyddwyr.
Yn yr adain hon
Amseroedd agored swyddfeydd archifau
Darganfod pryd rydym ar agor.
Archifau - trefnwch eich ymweliad
Mae gennym amrywiaeth eang o gofnodiadau hanesyddol sy’n ymwneud ag Ynys Môn ac sydd ar gael ar gyfer ymchwilio.
Archifau - adneuo eitemau
Ymhen 10, 20 neu 100 mlynedd fe fydd chwilfrydedd mawr ynglyn â beth sydd yn digwydd heddiw. Y mae’r archifdy yn croesawu adneuon o ddefnydd archifol sydd yn ymwneud ag Ynys Môn gan aelodau o’r cyhoedd.
Archifau - catalogau, mynegai ac arweinlyfrau
Rhestri o gatalogau, mynegau, cofresti plwyf, sesiynau cwarterol, papurau newydd a chapeli yn yr Archifdy gall cynorthwyo gyda’ch ymchwil.
Archifau - gwasanaethau
Mae Gwasanaeth Archifau Ynys Môn yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’n defnyddwyr:
Archifau - hanes teulu a thŷ
Mae gennym ystod eang o adnoddau sy’n ddefnyddiol i haneswyr teuluol. Os ydych yn meddwl bod eich hynafiaid unwaith wedi byw ar Ynys Môn a chwithau gyda diddordeb mewn canfod rhywbeth amdanynt, yna bydd y dudalen hon yn rhoi rhai awgrymiadau i chwi ar sut i ddechrau eich gwaith ymchwil.
Archifdy - rhestr o daliadau
Mae Archifdy Ynys Môn yn fodlon derbyn arian parod, a sieciau sy’n daladwy i Gyngor Sir Ynys Môn, wedi eu croesi ac mewn punnoedd sterling. Mi fedrwn brosesu cardiau debyd a chredyd trwy ein swyddfa gyllidol a thrwy ffonio 01248 752015. Gall cwsmeriaid o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ffonio 00454 1248 752015.

Archifau - Gwasanaeth Addysg
Rydym yn paratoi gwasanaeth addysg i ddysgu ffurfiol ac anffurfiol.





