Gwasanaethau'r Cyngor:

Archifau - adneuo eitemau

Ymhen 10, 20 neu 100 mlynedd fe fydd chwilfrydedd mawr ynglŷn â beth sydd yn digwydd heddiw. Y mae’r archifdy yn croesawu adneuon o ddefnydd archifol sydd yn ymwneud ag Ynys Môn gan aelodau o’r cyhoedd.

Os ydych yn meddwl am gael gwared â phapurau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau o’ch cartref neu o’ch gwaith, fe fyddwn yn falch iawn o glywed gennych. Os byddwch yn ymwybodol bod gan rhai unigolion ddogfennau a fyddai o ddiddordeb,cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Fe hoffwn gysylltu â nhw er mwyn diogelu treftadaeth archifol Ynys Môn ar gyfer y dyfodol.

Yr ydym yn derbyn bron pob cynnig o ddogfennau ac y maent yn ddi-eithriad o ddiddordeb i ddefnyddwyr yr archifdy. Gwerthfawrogwn eich cymorth yn amddiffyn treftadaeth Ynys Môn ac i sicrhau mynediad i genedlaethau’r dyfodol i gyfoeth hanes yr ynys.

Cysylltwch â Gwasanaeth Archifau

Archifau Ynys Môn
Ystad Diwydiannol Bryncefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7JA
Cod Archon:221
Ystafell Ymchwil: 01248 751930
Ebost: archifdy@ynysmon.gov.uk Swyddog Addysg Archifau: cajlh@ynysmon.gov.uk

Oriau Agor Gwasanaeth Archifdy

Dydd Llun: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Mawrth: 2pm - 4.45pm (2pm -7pm, pob ail a pedwerydd Mawrth byn y mis)
Dydd Mercher: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Iau: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)
Dydd Gwener: 9.15am - 4.45pm (ar gau am ginio rhwng 1pm - 2pm)

Diweddariad diwethaf: 14 Chwef 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?