Gwasanaeth ymchwilio archifau
Pa fath o waith ymchwil fyddwn ni’n ei wneud?
Mae Gwasanaeth Archifau Ynys Môn yn cynnig gwasanaeth ymchwil taladwy gan ein staff. Gallwn gyflawni’r rhan fwyaf o ymholiadau gan ddefnyddio’r holl archifau, ffilmiau micro a llyfrau cyfeirio sydd ar gael yma yn y swyddfa. Yn aml iawn byddwn yn gwneud gwaith ymchwil i gofnodion plwyf, canlyniadau cyfrifiad a thaliadau degwm, ond fe ellir ymchwilio i unrhyw ddosbarth o gofnodion.
Faint mae o’n gostio?
Mae’r gwasanaeth am ddim am y 15 munud cyntaf. Fodd bynnag, ar gyfer gwaith chwilio hirach neu fwy cymhleth byddwn yn codi £25.50, yn cynnwys TAW (1 leiaf awr y cais). Nid yw hyn ddim yn cynnwys copïau a phostio.
Mae Archifdy Môn yn fodlon derbyn arian parod, a sieciau sy’n daladwy i Gyngor Sir Ynys Môn, wedi eu croesi ac mewn punnoedd sterling. Mi fedrwn brosesu cardiau debyd a chredyd trwy ein swyddfa gyllidol a thrwy ffonio 01248 752015. Gall cwsmeriaid o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ffonio 00454 1248 752015.
Sut gallaf i gomisiynu gwaith chwilio?
Mae ffurflen Archebu Ymchwiliad ar gael i’w lawr lwytho. Fel arall, fe allwch ysgrifennu neu anfon e-bost i ni yn rhoi eich ymholiad. Ceisiwch gynnwys cymaint o fanylion ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda, ynglŷn â’r testun sydd i’w ymchwilio ee enwau, dyddiadau, plwyfi yn achos hanes teuluol, cynlluniau neu fapiau mewn achosion o chwilio hanes tŷ.




