Archifau - trefnwch eich ymweliad
Mae gennym amrywiaeth eang o gofnodiadau hanesyddol sy’n ymwneud ag Ynys Môn ac sydd ar gael ar gyfer ymchwilio.
Felly, boed eich diddordeb mewn hanes lleol neu hanes teuluol, mae ein staff yma i’ch helpu chwi i ganfod mwy am eich ardal leol neu eich cymuned.
Os oes gennych rhagor o gwestiynnau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Archifau neu beth am chwilio drwy ein “Cwestiynnau Cyffredin” ar yr ochr dde o’r dudalen.
Mynediad
Mae mynediad yn rhad ac am ddim a nid oes cyfyngiadau ar bwy all ddefnyddio’r Swyddfa. Ond disgwylir i bawb ddilyn Rheolau’r swyddfa - gweler ein Rheoau Stafell Ymchwil.
Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu rhoi ein casgliadau ar lein. Fodd bynnag, gallwch chwilio am fanylion llawer o’n casgliadau trwy ddefnyddio gwefan Rhwydwaith Archifau Cymru neu’r wefan Mynediad i Archifau (A2A). Mae’r gwefannau hyn yn rhoi disgrifiadau manwl o’n cofnodiadau ac fe ddylent eich helpu i nodi’r rhai fydd o ddefnydd i chwi yn eich hymchwil.
Oriau agor
Gweler y llyw ar yr ochr dde.
Tocynnau Darllen
Rhaid cael Tocyn Darllen (CARN - County Archive Research Network) er mwyn cael mynediad at ddeunyddiau gwreiddiol. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod sy’n cynnwys eich cyfeiriad a’ch llofnod (e.e. trwydded yrru) os nad oes gennych docyn. Gellir rhoi tocynnau diwrnod i’r rheiny nad sydd â thocyn darllenwyr, hefyd.
Apwyntiadau - cysylltwch â ni cyn ymweld - sgrifennwch neu galwch o flaen llaw
Mae Gwasanaeth Archifdy Môn yn gweithredu system archebu. Rhaid i ddefnyddwyr archebu lle yn yr ystafell chwilio cyn eu bod yn ymweld. Gallwch archebu lle trwy ddod i’r Archifdy, trwy e-bost, ffôn neu lythyr. Nodwch bod angen archebu lle ar gyfer pob person sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth. Os bydd gennych unrhyw ofynion arbennig, gadewch i ni wybod amdanynt pan fyddwch yn archebu lle.
Ble ydym ni?
Trowch oddi ar y wibffordd yng nghyffordd 6 gydag arwyddion Rhostrehwfa (A5) Llangefni (A5114). Dilynwch yr arwyddion am Llangefni (A5114). Cymerwch y tro cyntaf i’r dde a dilynwch yr arwyddion am y Stad Ddiwydiannol. Yn y gylchfan gyntaf cymerwch y tro cyntaf oddi arni. Ewch ar hyd y ffordd hon hyd nes y gwelwch arwydd y swyddfa.
Mae Archifau Ynys Môn y tu ôl i SOS Office Solutions ar y dde i chi.
Parcio
Darparwyd maes parcio am ddim i ddefnyddwyr yr Archifdy.
Toiledau
Mae yna gyfleusterau toiled gwbl hygyrch.
Ar y Bws/Trên
Bangor yw’r orsaf fwyaf cyfleus, gyda chysylltiad bws yn mynd o’r fan honno bob hanner awr - rhifau 4 a 9.
Cynnwys yr Archif
Mae Archifdy Môn yn dal cofnodion a chasgliadau ar gyfer Ynys Môn, gan gynnwys ffurflenni cyfrifiadau, cofrestri plwyf, cofrestri anghydffurfwyr, cofnodion trethi tir, mapiau, ffotograffau, cofnodion cynghorau, cofnodion addysg, rhestrau criwiau llongau a gofrestrwyd ym Miwmares, papurau newydd a chasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill.
Hygyrchedd
Mae pob ardal gyhoeddus yn Archifau Ynys Môn yn hollol hygyrch.
Cyfleusterau
Bwyd: Mae’r archifdy wedi ei lleoli yng nghanol y dref, lle mae caffis a bwytai ar gael
Tai Bach: Ar y llawr isaf
Siop: Dim siop
Cypyrddau Clo
Mae cypyrddau clo ar gael ar gyfer bagiau ayb.
Defnyddio camerâu a chopïo
Gellir darparu ffotograffau, argraffiadau a llungopïau microfform yn unol â chyfyngiadau hawlfraint a chan ddibynnu ar gyflwr y dogfennau gwreiddiol. Gellir prynu trwyddedau ar gyfer defnyddio camerâu personol.
Defnyddio gliniaduron
Caniateir defnyddio gliniaduron, ond nid oes socedi pŵer ar gael.
Gwasanaeth Ymchwil
Mae yna wasanaeth ymchwil post y gellir talu amdani, gyda ffi gychwynnol am yr hanner awr gyntaf. Cysylltwch â Gwasanaeth Archifau Môn er mwyn cael y ffi gyfredol.
Amserau Adalw Dogfennau
Bydd cofnodiadau’n cael eu cynhyrchu bob tri chwarter awr
Byddwn yn dechrau cynhyrchu dogfennau am: 09:30 a daw i ben am 16:15
Llun, Mercher, Iau a Gwener: 09.30; 10.15; 11.00; 11.45; 12.30; 14.15; 15.00; 15.45; 16.15
Pob 2ail a 4ydd dydd Mawrth o’r mis: 14.15; 15.00; 15.45; 16.15; 17.00; 17.45; 18.15




