Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru a lansio cychod pŵer / badau dŵr personol


Mae na cynllun cofrestru ar gyfer badau dŵr personol (sgïau jet) ac unrhyw fadau pŵer ar Ynys Môn.  

Yn ogystal, bydd ffi lansio yn daladwy mewn rhai safleoedd. Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni isod os gwelwch yn dda.

Cofrestru a lansio tymhorol

Bydd rhaid i’r holl fadau pŵer sy’n cael eu lansio yn Ynys Môn gael eu cofrestru a bod ag yswiriant dilys.

Bydd angen ffi lansio ar gyfer yr holl grefftau sy'n cael eu gyrru gan bŵer hefyd mewn rhai safleoedd.

Ffurflen gais lansio tymhorol (PDF)

 

Dylai perchenogion cychod pŵer a badau dŵr personol sicrhau eu bod yn gyfarwydd gyda’r is ddeddfau lleol mewn perthynas â’r defnydd o gychod pleser ar arfordir Môn.

Dygwn eich sylw yn benodol at y cyfyngiad cyflymdra o 8 milltir forol ym mhob un o’r 26 o ardaloedd y mae ein his-ddeddfau glan môr a chychod pleser yn berthnasol iddynt. Bydd copi ar gael i chi edrych arno gan y goruchwyliwr lansio perthnasol.

Yn ogystal, atgoffir cychod sgi bod rhaid iddynt gael sylwedydd yn y cwch, yn ogystal â’r gyrrwr, bob amser y bydd sgïwr yn y dŵr. Gellir erlyn y rheini sy’n torri is-ddeddfau Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer cychod pleser glan môr a thynnu oddi wrthynt eu caniatâd i ddefnyddio cyfleusterau lansio’r cyngor.

I gofrestru bydd angen talu ffi a bydd rhaid cyflwyno i’r swyddog cofrestru brawf adnabod a phrawf o ddiogelwch yswiriant priodol. Bydd rhaid cael diogelwch yswiriant trydydd parti £3 miliwn.

Ni chaniateir mynediad i fadau personol ac / neu fadau gyda pheiriant i unrhyw un o draethau’r cyngor os nad yw’r perchennog wedi cofrestru’r bad gyda chyngor Sir Ynys Môn neu os yw’r cofrestriad wedi ei dynnu’n ôl.

Er mwyn gyrru bad dŵr personol, rhaid i yrwyr:

  • rhaid i yrwyr badau personol heb gymhwyster fod o leiaf 18 oed
  • bod rhwng 15 ac 17, a bod yn berchen ar dystysgrif medrusrwydd gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol ar gyfer badau dŵr personol
  • bod rhwng 12 ac 14  a bod yn berchen ar dystysgrif medrusrwydd gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol a chael eu “goruchwylio’n uniongyrchol” gan oedolyn. Mae goruchwylio yn yr ystyr hwn yn golygu bod oedolyn yn bresennol ar y bad.

Ni chaniateir pobl ifanc o dan 12 mlwydd oed i yrru badau dŵr personol.

O fewn 50 metr i fad dŵr personol, cwch, angorfa, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr neu offer pysgota dylech deithio ar gyflymdra sydd ddim yn gadael ôl y bad yn y dŵr. Rhaid cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyflymdra Cyngor Sir Ynys Môn yn yr holl ardaloedd penodedig.

Nodwch, os gwelwch yn dda:

  • ni chaniateir i chi yrru bad dan ddylanwad diod na chyffuriau
  • anogir mordwyo badau dŵr personol a badau gyda pheiriant mewn modd cyfrifol
  • argymhellir fod yn rhaid cael yr offer priodol
  • anogir trefniadau diogelwch a chwrteisi i eraill
  • bydd rhaid talu ffioedd lansio
  • tynnir cofrestriad perchennog / defnyddiwr yn ôl oni fydd yn cydymffurfio gyda’r amodau uchod.
  • os oes unrhyw amheuaeth peidiwch a mynd ar y dŵr

Sicrhewch fod yr holl offer priodol ar eich bad. I’ch cynorthwyo mae’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Badau Achub bellach yn darparu gwasanaeth sydd, i bob pwrpas, yn rhad ac am ddim i berchenogion cychod i siecio eich offer diogelwch a rhoi tystysgrif ar gyfer eich cwch/bad. Petaech yn dymuno manteisio ar y gwasanaeth hwn ffoniwch y Sefydliad Badau Achub Brenhinol ar y rhif ffôn “Sea Check” i wneud y trefniadau - rhadffôn 0800 328 0600.

Os hoffech gael cyngor ar unrhyw fater diogelwch byddai ein staff yn falch o’ch cynorthwyo fel sy’n wir hefyd wrth gwrs am Wylwyr y Glannau ei Mawrhydi a’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Badau Achub.

Cyn mynd ar y dŵr, dylai perchenogion cychod fod yn ymwybodol o’r ystyriaethau diogelwch isod:

  • ar rai adegau mae’r llanw a’r cerrynt yn gryf iawn rhwng y ddwy bont ym Mhorthaethwy - yn aml yn gryfach na 6 milltir forol.
  • peidiwch â defnyddio badau ysgafn na badau heb beiriant oni bai eich bod yn hwyliwr profiadol ac yn gyfarwydd iawn gyda’r ardal.
  • rhowch wybod i berson dibynadwy neu i Wylwyr y Glannau eich bod yn gadael a pha bryd y byddwch yn dychwelyd.
  • ni chaniateir i chi yrru bad dan ddylanwad diod na chyffuriau.
  • cludwch fflerau signalu ac angor.
  • gwisgwch ddillad addas a siaced achub
  • sicrhewch fod eich cortyn diffodd peiriant, os oes gennych un, ynghlwm wrth yrrwr eich cerbyd
  • sicrhewch nad yw eich cwch wedi ei orlwytho a’i fod yn addas i fod ar y môr.
  • sieciwch ragolygon y tywydd
  • rhaid i gychod sgïo sy’n tynnu gludo sylwedydd.
  • o fewn 50 metr i fad dŵr personol, cwch, angorfa, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr neu offer pysgota, dylech deithio ar gyflymdra sydd ddim yn gadael ôl.
  • os oes unrhyw amheuaeth peidiwch â mynd ar y dŵr.

Gwybodaeth pellach

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.