Cofrestru a lansio cychod pŵer / badau dŵr personol
Bydd cynllun cofrestru ar gyfer badau dŵr personol (sgïau jet) ac unrhyw fadau pŵer yn cael ei redeg ledled Ynys Môn yn ystod y tymor nesaf, sef haf 2012, gan gychwyn ym mis Ebrill 2012.
Bydd rhaid i’r holl fadau pŵer sy’n cael eu lansio yn Ynys Môn gael eu cofrestru a bod ag yswiriant dilys. Yn ogystal, bydd ffi lansio yn daladwy mewn rhai safleoedd. Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni ar y chwith os gwelwch yn dda.
Bydd y ffioedd 2012 yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Cynllun cofrestru
Bydd rhaid i bawb sy’n lansio badau pwer gofrestru eu badau cyn defnyddio’r llithrfeydd neu’r pwyntiau mynediad cydnabyddedig.

Ffurflenni cofrestru
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn cofrestru eich bad pwer neu bad dwr personol (sgi-jet) gyda’r cyngor. Mae cofrestru yn orfodol am bob bad sy’n cael ei lansio yn Ynys Môn.

Ffioedd lansio
Bydd ffi lansio yn daladwy ar gyfer pob bad pwer ym mhob un o’r llithrfeydd a phwyntiau mynediad canlynol:

Ffurflen gais: ffioedd lansio tymhorol
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn derbyn ffi tymhorol ar gyfer lansio badau dwr personol a badau pwer.

Rheoliadau a chyfyngiadau lleol
Dylai perchenogion cychod pwer a badau dwr personol sicrhau eu bod yn gyfarwydd gyda’r is ddeddfau lleol mewn perthynas â’r defnydd o gychod pleser ar arfordir Môn.

Diogelwch ar y môr
Cyn i chi fynd allan sicrhewch os gwelwch yn dda bod person cyfrifol yn gwybod i ba le yr ydych yn mynd a pha bryd y byddwch yn dod yn ôl.




