Gwasanaethau'r Cyngor:

Cynllun cofrestru ar gyfer cychod pŵer / badau dŵr personol

Bydd rhaid i bawb sy’n lansio badau pŵer gofrestru eu badau cyn defnyddio’r llithrfeydd neu’r pwyntiau mynediad cydnabyddedig.

Bydd rhaid i’r holl fadau pŵer sy’n cael eu lansio yn Ynys Môn gael eu cofrestru a bod ag yswiriant dilys . Bydd raid cofrestru pob bad gydag injan - hyd yn oed badau gyda dim ond un perchennog.

Mae maynion llawn cynllun cofrestru a lansio badau dŵr personol a chychod ar gael fel dogfen PDF i’w lawrlwytho.

Sut ydw i’n cofrestru?

Gellir cofrestru yn Swyddfeydd y Cyngor Sir neu drwy oruchwylwyr y llithrfeydd yn Nhraeth Bychan, Biwmares, Trearddur, Rhoscolyn, Rhosneigr, Porth Llechog a Phorthaethwy.

Gellir hefyd cofrestru drwy’r post. Am gopi o’r ffurflen gofrestru, gweler tudalen Ffurflen gofrestru: cychod pŵer / badau dŵr personol

Bydd rhaid i chi ddarparu prawf adnabod a phrawf o ddiogelwch yswiriant priodol. Bydd rhaid cael yswiriant trydydd parti £3 miliwn.

Faint mae cofrestru yn ei gostio?

Yn uniongyrchol gan y cyngor - £15
Wrth y llithfra - £20

Bydd rhaid i’r rheiny nad ydynt yn talu am drwydded lansio dymhorol wrth gofrestru dalu y ffi ar gyfer cofrestru ynghyd â’r ffi dyddiol pan yn lansio y tro cyntaf.  Dim ond ffi ddyddiol  y bydd angen ei thalu ar ôl hynny.

Ble alla i lansio?

Mae cofrestriadau lansio yn ddilys i’w defnyddio ym mhob un o gyfleusterau lansio Cyngor Sir Ynys Môn (rhestrir isod). Yn ogystal, mae cofrestriadau ar gyfer lansio yn cael eu derbyn gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych heb i chi orfod ailgofrestru na thalu eto.

Llithrfeydd cydnabyddedig

Mae angen talu ffioedd cofrestru a lansio.

Llithrfa Trearddur, Llithrfa Traeth Bychan, Pwynt mynediad Rhosneigr, Pwynt mynediad Rhoscolyn, Llithrfa Biwmares, Llithrfa Porthaethwy (Porth y Wrach) a Phorth Llechog.

Llithrfeydd cyfyngedig

Llithrfa Llaneilian, Pwynt mynediad Porth Tywyn Mawr, Llithrfa Clwb Hwylio Caergybi , Traeth Llugwy, Porth Swtan, Traeth Penrhos (Caergybi), Llithrfa Bol Sach (llithrfa Gwylwyr y Glannau, Caergybi), Cemaes a Bae Ffreiars

Angen cofrestriad - gallai ffioedd eraill fod yn berthnasol.

Nodyn: Ni chaniateir eithriadau ar gyfer y llithrfeydd cyfyngedig uchod heb ganiatâd y swyddog arforol neu ddirprwyon a enwebwyd ganddo.

Manteision y cynllun cofrestru

Mae’r cynllun hwn yn cynnig mantais sylweddol i’r rheiny sydd wedi cofrestru gydag Ynys Môn oherwydd y bydd cynghorau sir Conwy, Dinbych a Gwynedd yn derbyn cofrestriad Ynys Môn.

Yn wahanol i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd o’r blaen, mae hyn yn golygu, os byddwch yn penderfynu mynd i Wynedd am y diwrnod yn hytrach nag i Ynys Môn ni fydd raid i chi gofrestru eto yng Ngwynedd a thalu eu ffi gofrestru. Y cyfan y bydd raid i chi ei wneud bydd talu eu ffi lansio ddyddiol.

Mantais y cynllun hwn yw bod y cofrestriad yn ddilys ar gyfer y pedair ardal a bod tynnu’r cofrestriad oddi ar y rheiny sy’n achosi unrhyw fath o broblemau yn golygu eu bod wedi colli’r cofrestriad ar gyfer y cyfan o Ogledd Cymru i bob pwrpas.

Gallwn eich sicrhau na chymerid y camau uchod ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn yn erbyn y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio gydag is-ddeddfau a rheoliadau lleol.

Diweddariad diwethaf: 21 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?