Llyfrgelloedd - benthyca
Benthyca a dychwelyd eitemau o lyfrgelloedd yr ynys.
Gall oedolion, pobl ifanc a phlant fenthyg hyd at 10 eitem ar eu cerdyn llyfrgell ar unrhyw adeg. Benthycir y rhan fwyaf o lyfrau, tapiau a chryno ddisgiau am dair wythnos ond benthycir tapiau fideos a DVDs am wythnos ar y tro.
Codir tâl bychan am fenthyg DVDs, tapiau fideos a chryno ddisgiau cerdd. Am fanylion ynglyn â’n ffioedd a’n taliadau cyfredol, dilynwch y linc yn y llyw ar yr ochr chwith i’r dudalen ffioedd a thaliadau.
Mae’n bosib trefnu benthyciad ymestynnol mewn amgylchiadau arbennig, ee os byddwch yn mynd ar wyliau neu’n mynd i mewn i’r ysbyty. Gallwn hefyd drefnu benthyciadau tymor hir ar gyfer myfyrwyr.
Gall ysgolion, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae ayyb drefnu i fenthyg nifer sylweddol o lyfrau ac adnoddau eraill ar fenthyciad tymor hir.
Dychwelyd eitemau
Gallwch ddychwelyd eich eitemau i unrhyw un o lyfrgelloedd cyhoeddus Môn. Os ydych yn dychwelyd eich llyfrau neu eitemau eraill yn hwyr, bydd rhaid i chi dalu dirwy ar gyfer pob diwrnod mae pob eitem unigol yn hwyr.