Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Chwilio, adnewyddu neu archebu eitemau


Cofiwch fod modd i chi lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar a chylchgronau am ddim. Os ydych eisiau ymuno hefo’r llyfrgell, cliciwch y ddolen ymuno â’r llyfrgell.

Sut i chwilio am, archebu neu adnewyddu eitemau o’ch llyfrgell leol.

Ar adegau mae’n anodd dod o hyd i lyfr arbennig neu i wybodaeth, yn enwedig os ydych yn newydd i lyfrgelloedd.

Wrth ddefnyddio ein Catalog Llyfrgell gallwch bori drwy ein casgliad ynghyd â chasgliadau Gwynedd a Chonwy, fel rhan o bartneriaeth TalNet. Gallwch hefyd bori drwy’r eitemau fesul Llyfrgell neu gasgliad o’ch dewis er mwyn gwneud cais am eitemau yn rhad ac am ddim neu i adnewyddu eitemau rydych yn barod wedi’i benthyca.

Gallwch ddefnyddio eich rhif cerdyn Llyfrgell a’ch rhif PIN 4 digid - gan adael y GWP ac unrhyw ofod - i fewngofnodi i’ch cyfrif Llyfrgell, lle gallwch adnewyddu eich benthyciadau a gwneud ceisiadau o’ch cartref 24 awr y dydd.

Mewngofnodwch i Gatalog Llyfrgelloedd Ynys Môn

 

Gallwch chi lawrlwytho a chadw eLyfrau hefyd!

Heb rif PIN?

Os nad oes gennych rif PIN (Personal Identification Number) 4 digid, gofynnwch am un tro nesaf yr ydych yn y Llyfrgell, neu llenwch ein ffurflen arlein a desiswch "Llyfrgelloedd".

Linc y Gogledd

Gellir hefyd gwneud cais am eitemau o lyfrgelloedd eraill trwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd neu drwy gynllun LINC y Gogledd. Gellir chwilio’r catalog ar y cyfrifiaduron yn y llyfrgell, adref, yn y coleg ayyb drwy’r rhyngrwyd.

Adnewyddu eitemau

Gallwch adnewyddu’r eitemau sydd ar fenthyg ar eich cerdyn drwy alw i mewn i unrhyw un o’r llyfrgelloedd ar yr ynys. Nid oes angen i chi ddod â hwy i mewn – mae’n bosib i ni eu hadnewyddu drwy sganio’r rhif aelodaeth ar eich cerdyn llyfrgell.

Gallwch hefyd adnewyddu’r eitemau naill ai drwy ffonio, ebostio, llythyru, ffacsio neu drwy wefan catalog TalNet. Eto, byddwn angen y rhif aelodaeth ar eich cerdyn llyfrgell. Os ydych yn adnewyddu ar wefan TalNet, bydd rhaid i chi deipio rhif cyfrinachol (PIN) i mewn hefyd.

Weithiau, ni fydd yn bosib i ni adnewyddu eitemau, yn enwedig llyfrau poblogaidd ac eitemau newydd â galw mawr amdanynt. Er hyn, os nad ydych wedi gorffen eich llyfr, mae’n bosib y byddwn yn gallu ymestyn y cyfnod benthyg am ddiwrnod neu ddau yn ychwanegol. Bydd hyn yn dibynnu ar y sefyllfa.