Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd


Mae’n bosibl defnyddio’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim ym mhob llyfrgell gyhoeddus ar Ynys Môn gan gael mynediad at gyfoeth o wybodaeth.

Gellir defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgelloedd drwy apwyntiad yn unig.

Gellir defnyddio’r cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim ond codir swm bychan am argraffu. Cofiwch ddod â’ch cerdyn llyfrgell gyda chi neu unrhyw dystiolaeth sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad os ydych yn dymuno defnyddio’r cyfrifiaduron.

Rydym yn cynnig:

  • mynediad i’r we fyd eang
  • meddalwedd Microsoft Office gan gynnwys Word, Access, Excel, Powerpoint a Publisher.
  • argraffu lliw
  • catalog y llyfrgell
  • amrywiol gyrsiau

Rhaid i bob defnyddiwr gytuno i gadw at amodau’r polisi ynglŷn â defnydd cyhoeddus o gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.