Llyfrgelloedd - gwasanaeth gwybodaeth
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i ateb eich ymholiadau, neu o leiaf i’ch cyfeirio i’r cyfeiriad cywir.
Gallwn ateb nifer o gwestiynau’n sydyn trwy ddefnyddio’n hadnoddau ein hunain a byddem yn fwy na pharod i gysylltu â llyfrgelloedd neu sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill ar eich rhan.
Lleolir ein prif gasgliad o adnoddau yn Llyfrgell Llangefni, casgliad llai yn Llyfrgell Caergybi a chasgliadau bychain yn y llyfrgelloedd eraill ar yr ynys.
Pa fath o wybodaeth sydd ar gael?
- gwybodaeth gyffredinol elfennol - cyfeiriadau sefydliadau, rhifau ffôn, ffeithiau a manylion
- gwybodaeth am faterion bob dydd - eich hawliau, teithio, iechyd a materion cymdeithasol
- gwybodaeth am Gymru - ei hanes, llenyddiaeth a’i thraddodiadau
- gwybodaeth leol - manylion am gymdeithasau, gweithgareddau, dosbarthiadau nos, hanes lleol ac ystadegau
- gwybodaeth fusnes - cyfeiriadau cwmnïau
- gwybodaeth i fyfyrwyr - manylion cyrsiau, gyrfaoedd a phrosbectysau
Mae’n hadnoddau, sy’n cynnwys llyfrau, cyhoeddiadau swyddogol y llywodraeth, mapiau, papurau newydd a chyfnodolion, CD-ROMau a gwasanaethau ar-lein yn cynrychioli adnodd gwybodaeth sylweddol - ar gael i’w ddefnyddio ar eich rhan neu’n uniongyrchol gennych chi.
Casgliadau pwysig
Lleolir y casgliadau canlynol yn Llyfrgell Llangefni:
- casgliad o Ddeddfau’r Llywodraeth
- casgliad o adnoddau printiedig yn ymwneud â Chymru
- casgliad o gyfnodolion Cymraeg a Chymreig
- casgliad astudiaethau lleol
- casgliad cyhoeddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru




