Gwasanaethau'r Cyngor:

Llyfrgelloedd - casgliad lleol

Os ydych yn chwilio am wybodaeth leol ac yn cael anhawster dod o hyd i atebion, yna cofiwch ein bod ni yma i’ch cynorthwyo a’ch arwain at ffynonellau defnyddiol.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar bu gwir gynydd yn y diddordeb a ddangoswyd mewn materion ‘lleol’, fel rhan o waith ysgol neu goleg, neu ddiddordeb cyffredinol. Mae nifer o feysydd astudiaeth yn dod o dan y categori “astudiaethau lleol”, gan gynnwys materion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac ieithyddol.

Lleolir y prif gasgliad yn Llyfrgell Llangefni, casgliad llai yn llyfrgell Caergybi a chasgliadau bychain yn y llyfrgelloedd eraill ar yr ynys. Gellir benthyg copïau o rai llyfrau printiedig os oes digon o gopïau ar gael.

Pa fath o adnoddau sydd ar gael?

  • llyfrau printiedig - hen a newydd
  • llyfrau gan awduron lleol
  • pamffledi a thaflenni
  • adroddiadau blynyddol gwahanol sefydliadau
  • cofnodion cyngor sir
  • adroddiadau gwahanol adrannau’r cyngor sir
  • rhestri etholwyr (1945 ymlaen - anghyflawn)
  • ystadegau megis poblogaeth, diweithdra a siaradwyr Cymraeg
  • papurau newydd lleol (1950au ymlaen)
  • papurau bro
  • cyfnodolion
  • toriadau papurau newydd
  • mapiau o wahanol gyfnodau gan gynnwys mapiau’r Ordnance Survey
  • sleidiau
  • recordiau, tapiau a fideos masnachol

Cysylltu â'r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth

Llyfrgell Llangefni
Lôn y Felin
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7RT

Cyswllt cangen: 01248 752095
Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc: 01248 752088
Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell: 01248 752094
Llyfrgell Deithiol: 01248 752095
Ffacs: 01248 750197
Ebost: llyfrgelloedd@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 4 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?