Llyfrgelloedd - gwasanaethau plant
Mae llyfrgelloedd Môn yn darparu llyfrau ac adnoddau gwybodaeth i blant o bob oedran a gallu.

Mae dewis helaeth o lyfrau stori i blant ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â llyfrau ar dâp a CD, tapiau cerdd, DVDs a fideos. Mae llyfrau gwybodaeth ar gael ar gyfer amser hamdden yn ogystal â chefnogi gwaith cartref. Gellir darparu detholiad o lyfrau print bras hefyd ar gyfer plant sy’n cael trafferth darllen print cyffredin.
Mae gan bob un o’n llyfrgelloedd gasgliad o lyfrau sy’n addas i bobl ifanc dros 14 oed. Mae cylchgronau arbennig a llyfrau TGAU a Lefel A i helpu gyda gwaith cartref yn ein llyfrgelloedd mwyaf hefyd.
Gellir defnyddio cyfrifiaduron ‘Rhwydwaith y Bobl’ yn rhad ac am ddim ym mhob llyfrgell ym Môn. Bydd angen goruchwyliaeth rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant o dan 13. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant 13 - 16. Ceir adnoddau gwybodaeth defnyddiol fel Encyclopaedia Britannica - Students Edition ar gyfer pobl ifanc a myfyrwyr a Encyclopaedia Britannica - Junior Edition ar gyfer plant ar linell - gofynnwch am rif PIN yn eich cangen leol. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y linc isod i’r dudalen ffynonellau gwybodaeth ar-linell.
Gall ein gwasanaeth gwybodaeth eich helpu i ddod o hyd i atebion i gwestiynau anodd. Darperir yn ogystal gwybodaeth am gyrsiau, colegau/prifysgolion a gyrfaoedd.
Gall eich plant ymuno a’n rhaglen “Hwyl Haf”. Nid oes rhaid iddynt fod yn ddarllenwyr annibynnol; mae rhannu stori gyda oedolyn yn ffordd wych i gymryd rhan. Mae gweithgareddau fel hyn yn sicrhau bod plant yn magu’r arferiad o ddarllen ac yn dod yn ddarllenwyr trwy eu hoes. Rydym hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn fel amserau stori a sesiynau celf. Yn ein rhaglen ‘Hwyl Haf’ 2010 cafwyd:
- amserau stori
- cynllun darllen
- sesiwn celf
- sioe bypedau
- peintio wyneb
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol neu chwiliwch ein rhestr digwyddiadau ar gyfer dyddiadau ac amseroedd y gweithgareddau sydd i ddod.




