Llyfrgelloedd - sut i ymuno â'r llyfrgell
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim.

Byddwn angen gweld un eitem sydd yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad presennol ee trwydded yrru neu fil trydan. Bydd angen llofnod rhiant neu warchodwr ar bobl ifanc dan 18 oed.
Er mwyn dechrau benthyg eitemau o’ch llyfrgell leol, y cyfan sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell cyfredol. Gallwch ddefnyddio’ch cerdyn mewn unrhyw lyfrgell gyhoeddus ym Môn a hefyd yn llyfrgelloedd cyhoeddus Conwy a Gwynedd. Ni ellir benthyg unrhyw eitem heb gerdyn llyfrgell cyfredol.
Gellwch hefyd ymuno ar-lein drwy lawr lwytho’r ffurflen ymaelodi isod a’i gyrru at elxlh@anglesey.gov.uk
Bydd eich cerdyn llyfrgell yn cael ei yrru atoch drwy’r post a bydd rhaid ichi ei ddangos ynghyd ag un eitem sy’n cynnwys eich cyfeiriad pan fyddwch yn ymweld â’r llyfrgell am y tro cyntaf ar ôl ymaelodi.
Os yn ymaelodi plentyn neu berson ifanc dan 18 ar lein bydd ffurflen ychwanegol yn cael ei gyrru atoch er mwyn cael llofnod rhiant neu warchodwr. Bydd rhaid cyflwyno’r ffurflen hon yn ogystal a’r cerdyn pan yn ymweld â’r llyfrgell am y tro cyntaf.




