Gwybodaeth hygyrchedd
Rydym yn anelu at wneud ein gwefan mor hygyrch â phosib i bawb ac rydym wedi’ dylunio’r wefan i gydsynio gydag arweiniad a gofynion y Llywodraeth ac i gyrraedd safonau’r WAI (Web Accessibility Initiative) ar raddfa “AA”.
Mae dyluniad ein safle yn cynnwys nifer o agweddau hygyrchedd e.e. symud trwy’r llywio sy’n ddefnyddiol i ymwelwyr sy’n defnyddio technoleg darllen sgrin arbennig.
Newid maint y testun
Mae’n bosib newid maint y testun ar y wefan.
Dylunio
Mae’r prif benawdau ar gael ar bob tudalen o’r safle gan wneud llywio o amgylch y safle mor rhwydd â phosib.
Gellir newid rhwng ieithoedd (Cymraeg a Saesneg) heb newid neu golli dyluniad a llywio’r safle.
Dadlwytho Dogfennau mewn ffurf PDF
Defnyddir ffurf PDF (Adobe Acrobat) ar gyfer cyhoeddi dogfennau mawr drwy’r safle.
I agor a phrintio’r dogfennau PDF mae’n ofynnol i chi osod Darllenydd Adobe Acrobat (ar gael am ddim o safle Adobe)
Am ragor o wybodaeth ar hygyrchedd tra’n defnyddio Adobe gweler ei safle.
Fersiwn Print
Os hoffech ddarllen y testun mewn ffurf papur, gallwch brintio’r tudalennau. Mae pob tudalen wedi’i dylunio i brintio’n daclus.
Cyswllt
Os hoffech gynnig sylwadau ar hygyrchedd y safle neu adrodd unrhyw problemau technegol cysylltwch â: webmaster@ynysmon.gov.uk
Ydych angen cymorth gyda gwneud y we yn haws i’w ddefnyddio? Mae’r safleoedd gwe isod yn egluro’r ffyrdd fedrwch newid gosodiadau eich porwr, cyfrifiadur, buseddfwrdd a llygoden er mwyn gwneud y we yn fwy hygyrch i chi.




