Anabledd corfforol a synhwraidd
Rydym yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phobl anabl fel y gallant fyw’n annibynnol ac yn integredig o fewn eu cymunedau.
Gall anabledd daro unrhyw un yn y gymuned ar unrhyw adeg trwy salwch sydyn neu ddamwain. Yn aml nid oes digon o ystyriaeth yn cael ei roi i anabledd yn ein cymdeithas.
Yn Ynys Môn, ‘rydym yn sylweddoli fod gan bobl ag anabledd yr hawl i adeiladu ar eu cryfderau a’n bwriad yw eich galluogi i oresgyn yr anhawster a wynebir oherwydd trefn ein cymdeithas.
Mae gan Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Dîm Anabledd gyda staff sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phobl anabl fel y gallant fyw’n annibynnol ac yn integredig o fewn eu cymunedau.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:
- Cymhorthion / Cyfarpar i helpu gyda byw o ddydd i ddydd
- Cymhorthion Amgylcheddol a Chyfathrebu
- Addasiadau tai
- Tai i gyfarfod anghenion arbennig
- Cyngor ar gyflogaeth / cyflogaeth gyda chefnogaeth
- Gweithwyr arbenigol i’r rhai hynny sy’n drwm eu clyw
- Gweithwyr arbenigol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall a chymorth i ail-ymaddasu
- Gwasanaeth Gofal Cartref a Gweithwyr Cefnogol i’ch cynorthwyo gyda gofal personol a gofal yn y cartref
- Gwasanaethau Dydd
- Cyfleusterau preswyl a gofal Ysbaid
- Gwasanaethau Galwedigaethol a Hamdden
- Cynllun Bathodyn Glas - consesiwn parcio
Partneriaeth a defnyddwyr gwasanaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddilyn arweiniad y defnyddwyr wrth ddatblygu gwasanaethau. Yn unol â hyn, sefydlwyd Canolfan Byw’n Integredig yn Llangefni sy’n cynnig gwybodaeth a gwasanaeth eiriolaeth. Mae staff arbenigol wrth law hefyd i gynnig cyngor ar Hyfforddiant a Mynediad i Gyfleoedd Cymdeithasol.
Gellir lawrlwytho y gwybodaeth yma o’r tab “dogfennau i’w lawrlwytho” uchod.




