Gwasanaethau'r Cyngor:

Anableddau dysgu

Yn ogystal â’r gwasanaethau penodol a ddarperir gan Arbenigwyr o fewn y Tîm gellir rhoi cymorth i bobl gael mynediad at y gwasanaethau canlynol:

  • addysg / hyfforddiant / gwasanaethau dydd - Campws Mona Campus Gwaith Cefnogol yn y Gymuned
  • gofal ysbaid
  • gofal cartref
  • llety cefnogol
  • cyfleoedd hamdden
  • adfocatiaeth  

Sut mae cael mynediad i’r gwasanaethau?

Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ddyletswydd o dan “Deddf Anabledd a Salwch Difrifol 1970” i gadw cofrestr o bobl gydag anabledd dysgu ar Ynys Môn.

Mae’r diffiniad o anabledd dysgu a fabwysiadwyd o fewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu Ynys Môn yn dilyn yr hyn a ddefnyddir yn “Health of a Nation - A Strategy for People with Learning Disability (1995).”

  • gallu cyfyngedig i ddeall gwybodaeth newydd neu gymleth ar gyfer dysgu sgiliau newydd (amhariad ar ddeallusrwydd)
  • gallu cyfyngedig i ymdopi’n annibynnol (amhariad ar gyfranogiad cymdeithasol) a 
    ddechreuodd cyn i’r person ddod i oed a gydag effaith parhaol.

Er mwyn cael mynediad at wasanaethau, mae’n rhaid asesu pobl yn erbyn y meini prawf hyn a rhoddir eu henwau ar Gofrestr Anableddau Ynys Môn.

Cynhelir asesiad aml-ddisgyblaethol sy’n cynnwys:

  • asesiad cymdeithasol o anghenion person mewn perthynas â chynnal safon ddigonol o annibyniaeth yn y gymuned
  • asesiad o sgiliau / cymhwysiad ymddygiad gan y Tim Nyrsio
  • asesiad seicolegol ar allu unigolion i adnabod / amgyffred

Beth sy’n digwydd nesaf?

Penodir Rheolwr Achos ar gyfer y bobl sy’n gymwys i gael eu cynnwys ar y Gofrestr Anabledd Dysgu er mwyn:

  • cyd-gordio asesiad o anghenion yr unigolyn a’i d/theulu;
    datblygu pecyn gofal;
  • gweithredu, monitro ac addasu’r cynllun fel bo angen;
  • adolygu’r cynllun yn ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn

Bydd level y gwasanaeth a ddarperir yn ddibynnol ar gymhlethdod yr angen, yr angen am ymateb aml-ddisgyblaethol a gallu’r defnyddiwr gwasanaeth a/neu’r gofalwr i reoli’r angen sydd wedi cael ei adnabod. Mae gan y Tîm Anabledd Dysgu nifer o Arbenigwyr a all gynghori a darparu gwasanaethau sy’n cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol / rheolwyr achos
  • rheolwyr achos iechyd
  • nyrsys cymunedol
  • cydlynydd adolygiad ac adnoddau
  • therapydd galwedigaethol
  • therapydd cerdd
  • therapydd iaith
  • ffisiotherapydd
  • seicolegydd
  • cynghorwr ar hyfforddiant

Mae gan Ofalwyr yr Hawl i Dderbyn Gwasanaeth  hefyd. Gofalydd yw person sydd yn edrych ar ôl perthynas neu ffrind sydd ag anabledd dysgu, ac oherwydd hyn, efallai y byddent angen cymorth.

Bydd y Rheolwr achos yn cymryd i ystyriaeth anghenion y Gofalydd wrth asesu anghenion y person sydd ag anableddau dysgu. Gall y Gofalydd ofyn am asesiad o’i hanghenion ar wahân.

Am wybodaeth bellach dilynwch y tab “cysylltiadau” uchod.

Diweddariad diwethaf: 15 Mai 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?