Amdanom ni - Bwrdd Lleol Diogelu Plant Gwynedd a Môn
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
-
Gwefannau
Daeth y Bwrdd i fodolaeth ar 1 Hydref 2006 fel gofyn dan Ddeddf Plant 2004. Mae’n cymryd lle’r Pwyllgor Diogelu Plant Rhanbarthol a fodolai ers 1996. Hwn yw’r corff statudol sy’n gyfrifol am ddiogelu plant a phobl ifanc o niwed sylweddol a hybu eu lles.
Mae aelodau’r bwrdd yn uwch reolwyr asiantaethau lleol sy’n rhan o ddiogelu plant a hybu lles plant. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl asiantaethau’n cydweithredu i ddarparu’r safon uchaf o wasanaeth i blant yn Ngwynedd a Môn, yn unol â Chytundeb y Cenhedloedd Unedidg ar Hawliau’r Plentyn, ac yn ymdrechu i gyflawni’r saith amcan craidd a osodwyd allan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru - am fanylion, dilynwch y ddolen we ar waelod y dudalen yma os gwelwch yn dda.
Mae’r bwrdd yn gweithio trwy strwythur o is-grwpiau sy’n sicrhau yr ymdrinnir â materion lleol ar sail amlasiantaeth, bod systemau’n cael eu harchwilio’n barhaus i ymateb i angen lleol, bod gwersi’n cael eu dysgu a bod gan staff o bob asiantaeth gyfle i gael hyfforddiant priodol.
Am ragor o wybodaeth am y bwrdd, fel ei aelodaeth ac ati gyfansoddiad, gweler yr atodiadau trwy gyfrwng y tab ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ uchod, neu gysylltu â’r Rheolwr Busnes y BLlDP (01286 679 926).
Mae gan bob asiantaeth ddyletswydd i gydymffurfio â Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan sydd ar gael i chi eu darllen ar wefan Plant yng Nghymru - dilynwch y ddolen uchod.
Os ydych yn poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar 01248 752733, (01248 353551) y tu allan i oriau swyddfa).
Noder: Oherwydd natur y dogfennau isod nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch ac ni fydd modd defnyddio ‘darllenwr sgrin’ i ddarllen rhai o’r dogfennau hyn.




