Gwasanaethau'r Cyngor:

Gwarchod cymunedol

Beth yn union yw gwrachod cymunedol? Adnodd gofal dydd ar gyfer plant sydd wedi eu hasesu, o dan y Ddeddf Plant 1989, fel plant mewn angen, yw gwarchod cymunedol.

Nod y gwasanaeth yw cynnig adnodd hyblyg sy’n defnyddio sgiliau arbennig gwarchodwyr i’w galluogi i weithio gyda phlant a theuluoedd gyda’r bwriad o baratoi rhaglen strwythuredig ar gyfer y plant, gyda nodau ac amcanion clir iddi. Y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gyfrifol am dalu’r costau’r gwasanaeth sy’n cael ei
gynnig.

Pwy sy’n cael eu hystyried ar gyfer y gwaith?

Y rhai sy’n gallu cael eu hystyried ar gyfer y gwaith pwysig hwn yw’r rhai sydd eisoes yn warchodwyr profiadol ac sydd yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau er lles plant a theuluoedd sydd yn mynd trwy gyfnodau o argyfwng.

Sut fath o berson ay’n debygol o fod yn warchodwyr cymunedol effeithiol?

Mae’r unigolion sy’n cynnig eu gwasanaeth fel Gwarchodwyr Cymunedol yn debygol o fod yn:

  • brofiadol yn y maes o warchod plant;
  • aeddfed a gyda’r gallu i ddyfalbarhau yn y gwaith;
  • gallu ffurfio perthynas dda a phlant a rhieni;
  • deall pwysigrwydd cyfrinachedd;
  • barod i ymroi i hyfforddiant pellach yn gyson;
  • gallu gweithio gyda gwahanol arbenigwyr er lles plant unigol;
  • barod i fynychu cynadleddau achos pe byddai rhaid.

Pa gynhaliaeth sydd ar gael i warchodwyr cymunedol?

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig:

  • hyfforddiant
  • cynllun benthyca teganau ac offer
  • system dalu realistig.
  • cefnogaeth unigol mewn cyfnodau o argyfwng penodol

Sut fath o berson sy’n debygol o fod yn warchodwr cymunedol effeithiol?

Ym mhob achlysur ffurfir cytundeb rhwng y gwahanol asiantaethau (gan gynnwys y rhieni, y gwarchodwyr a’r gweithwyr cymdeithasol ) ynglŷn â chyfarfod ag anghenion y teulu.

Ystyried gwrachod cymunedol?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwaith, dylech gysylltu gyda swyddogion gofal dydd (plant) yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Gweler y manylion cyswllt uchod.

Cysylltwch â Gwasanaethau Plant

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752722 / 752733 (8.45am - 5pm)
Gwasanaeth oriau ar gyfwng: 01248 353551
Yr Heddlu – os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl enbyd 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saenseg) neu 999.
Ebost: csdss@ynysmon.gov.uk Gofal Maethu: maethu@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 15 Mai 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?