Gwasanaethau troseddwyr ifanc
Rhaid ymdrin yn ofalus â phobl ifanc sy’n cael eu cyhuddo o gyflawni troseddau fel eu bod yn llai tebygol o droseddu unwaith eto. Nid yw rhoi pobl dan glo yn datrys y broblem.
Nod yr Adran yw cynnig gwasanaeth cefnogi cynhwysfawr i’r llys ieuenctid a’r rhai hynny sydd wedi’u rhoi ar orchmynion sy’n golygu cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd adroddiadau cyn-dedfryd yn cael eu paratoi ar gyfer y llysoedd i gynorthwyo ynadon i ddod i benderfyniad. Rheolir gorchmynion goruchwylio fel bod modd i droseddwyr ifanc roi troseddu heibio.
Mewn prosiect ar y cyd gyda NACRO, mae modd cynnig pecyn rheoli troseddwyr i lysoedd fel bod modd rhoi pobl ifanc sydd wedi’u cyhuddo o droseddau mwy difrifol yng ngofal rhieni maeth arbenigol gyda chefnogaeth yn hytrach na’u hanfon i unedau diogel neu i garchar. Yn ogystal â hyn mae Prosiect Rhwyd NACRO yn cynnig gwasanaeth canoli ac unioni rhwng y troseddwr a’r rhai y troseddwyd yn eu herbyn mewn ymgais i gynorthwyo’r troseddwyr i weld y difrod y maent yn ei achosi i eraillyn ogystal ag iddynt eu hunain.
Datblygiad newydd oedd creu Panel Rhybuddio, sef panel a fydd yn cynnig y posibilrwydd o wasanaeth canoli ag unioni yn y cyfnod rhybuddio fel y bydd yn cael mwy o effaith ar droseddwyr ac yn gynt nag o’r blaen. Nod y gwasanaeth yw trin pobl ifanc fel unigolion trwy ddarparu cynlluniau sy’n dangos parch tuag at eu rhyw, diwylliant, gwreiddiau ethnig, crefydd ac amgylchiadau personol. Nid ydym yn cymeradwyo gweithredoedd troseddol, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw gostwng y risg o bobl ifanc yn troseddu eilwaith.
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol am ragor o wybodaeth. Gweler y manylion cyswllt uchod.




