Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Plant a pob ifanc y gofelir amdanynt


Beth yw Plentyn sy'n Derbyn Gofal?

Pan fydd y Cyngor yn lleoli plentyn neu berson ifanc, bydd yn gwneud hynny yn unol â'r gyfraith. Mae'r rhain yn gyffredinol yn perthyn i ddwy ran o Ddeddf Plant 1989, yn gyntaf:

Adran 76 - dyma lle mae plentyn yn cael ei letya yn wirfoddol, gyda chaniatâd yn cael ei roi gan y person sy'n dal cyfrifoldeb rhiant. O dan Adran 76, nid yw’r Awdurdod Lleol ag unrhyw gyfrifoldeb rhiant. Dylai Llety o dan Adran 76 fod yn y tymor byr yn unig.

Adran 31 – dyma’r adran lle mae’r Awdurdod Lleol â phryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi dioddef niwed sylweddol naill ai drwy esgeulustod, cam-drin neu drwy fod y tu hwnt i reolaeth rhieni. Yn yr achosion hyn gall Conwy wneud cais i'r llys am Orchymyn Gofal a fyddai'n caniatáu i'r Awdurdod Lleol rannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn gyda'r rhieni.

Yn y ddau achos hyn, mae'r Awdurdod Lleol â chyfrifoldeb rhianta corfforaethol, i ddarparu gofal o safon uchel.

Sut ydym yn cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal?

Social Workers have a range of accommodation options dependant on each child’s individual needs. We have a responsibility to ensure that the standard of care the child receives is of the highest possible standard.

  • Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogol i Bobl Ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd neu o fewn teulu arall.
  • Byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i weld a yw’n bosibl i’r person ifanc ddychwelyd gartref i fyw.
  • Byddwn yn cynnig cyfarwyddyd a chefnogaeth i helpu plant a phobl ifanc fyw bywydau llawn naill a’i gyda’u teulu naturiol neu deulu estynedig neu pan fônt yn byw o’r cartref gyda Gofalwyr Maeth neu mewn Gofal Preswyl.
  • Mae pob Plentyn sy'n Derbyn Gofal yn cael ei Weithiwr Cymdeithasol ei hun.


Cysylltwch â ni i drafod mater neu cael gwybodaeth drwy galw un o swyddogion Teulu Môn ar 01248 725 888.